Cymru yn fuddugol yn erbyn Albania yn eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Cymru yn erbyn Albania

Mae Cymru wedi ennill 1-0 yn erbyn Albania yn Elbasan nos Sadwrn, gan eu rhoi yn ail yn eu grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd.

Ddyddiau’n unig ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Albania ar gae’r STōK Cae Ras, roedd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu'r un gwrthwynebwyr eto.

Sophie Ingle oedd y capten wrth iddi ennill ei 150fed cap dros ei gwlad - yr ail chwaraewr yn unig i wneud hynny ar ôl Jess Fishlock.

Roedd ychydig o oedi ar gychwyn y gêm oherwydd problem gyda’r cae, gyda’r gic gyntaf 10 munud yn hwyr.

Yn wahanol i’r gêm yn Wrecsam ddydd Mawrth, fe ddechreuodd Cymru'n araf.

Newidiodd hynny wedi 10 munud wrth i Gemma Evans ddod o hyd i Mared Griffiths, ond roedd ergyd y chwaraewr ifanc o Drawsfynydd at gôl yn wan.

Roedd chwarae Cymru yn parhau’n ddigon diflas, ond wedi 27 munud fe ddaeth unig gôl y gêm drwy Rachel Roberts.

Roedd hi ar ddiwedd croesiad Lily Woodham wrth i’w hergyd ddod o hyd i gefn y rhwyd.

Ar achlysur ennill ei 150fed cap, roedd Sophie Ingle yn meddwl ei bod wedi dyblu mantais Cymru gyda pheniad i gefn y rhwyd, ond roedd y llumanwr yn dyfarnu ei bod yn camsefyll.

Ni chafodd yr un tîm gyfleoedd eraill yn yr hanner cyntaf. 1-0 i Gymru ar yr egwyl.

Image
Sophie Ingle oedd y capten wrth iddi ennill cap rhif 150 dros ei gwlad. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Sophie Ingle oedd y capten wrth iddi ennill cap rhif 150 dros ei gwlad. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Bu bron i Sophie Ingle sgorio wedi 52 munud, ond roedd ei hergyd o fewn y cwrt 18 yn syth at y golwr.

Fe gafodd Albania eu cyfle gorau funud yn ddiweddarach, ond nid oedd Fortesa Berisha yn gallu dod o hyd i'w chyd-chwaraewyr gyda'i chroesiad.

Wrth i'r ail hanner fynd yn ei flaen, Albania oedd yn edrych fwyaf tebygol o sgorio.

Bu bron iddyn nhw unioni'r sgôr trwy ergyd Ilarja Zarka, ond roedd ei hergyd wedi taro yn erbyn y trawst.

Roedd y 15 munud olaf yn heriol i Gymru wrth i Albania wthio i unioni'r sgôr.

Fe gafodd Berisha gyfle da eto wedi 85 munud, ond roedd golwr Cymru Safia Middleton-Patel wedi arbed ei hergyd.

Bydd Cymru yn wynebu Tsiecia a Montenegro nesaf ym mis Mehefin yn eu gemau olaf yn eu hymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.