Peintio dros furlun ar ôl camddealltwriaeth dros ganiatâd
Mae murlun yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael ei beintio drosodd ar ôl i berchennog yr adeilad ddweud nad oedd wedi rhoi caniatâd i’r gwaith fod yno.
Cafodd murlun o’r peiriannydd Isambard Kingdom Brunel, sy’n cael ei ystyried yn un o ffigurau amlwg y Chwyldro Diwydiannol, ei beintio ar adeilad ger Parc Jersey yn Llansawel gyda’r geiriau ‘Welcome to Llansawel / Briton Ferry’ arno.
Mae’r adeilad bellach wedi dychwelyd i’w liw llwyd arferol.
Yr artist Stephen ‘Jenks’ Jenkins, sy’n defnyddio caniau chwistrellu, wnaeth baentio’r murlun.
Cafodd y murlun ei ariannu a’i ddadorchuddio gan gynghorydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Gareth Rice, ond fe wnaeth perchennog yr adeilad ddweud nad oedd wedi rhoi caniatâd i’r murlun gael ei beintio.
Ychwanegodd y perchennog fod gweld y murlun yn syndod ac yn annisgwyl.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Cynghorydd Gareth Rice ei fod yn wirioneddol gredu ei fod wedi cael caniatâd gan y person cywir i beintio’r murlun.
Ychwanegodd ei fod wedi’i siomi bod y murlun wedi diflannu, ond ei fod yn parchu hawl y perchennog i wneud penderfyniadau ynglŷn â’r adeilad, ac ei fod yn galw ar bobl eraill i barchu’r penderfyniad.
Mae’r cynghorydd yn gobeithio dod o hyd i safle newydd i beintio’r murlun eto.
“Byddaf nawr yn chwilio am leoliadau eraill i weld a oes rhywle addas ar gyfer paentio’r murlun eto, neu ar gyfer prosiect arall yn y dyfodol.”