Dyn yn cyfaddef iddo yrru tacsi i'r cyfeiriad anghywir ar yr A55

A55

Mae dyn 31 oed wedi cyfaddef iddo gyflawni sawl trosedd ar ôl iddo yrru tacsi yr oedd wedi ei ddwyn i'r cyfeiriad anghywir ar yr A55 ar Ynys Môn nos Lun.

Cyfaddefodd Darragh O’Grady o Ddulyn yn Iwerddon iddo achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, methu â darparu sampl i’w ddadansoddi, gyrru cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti ac mewn ffordd nad oedd yn unol â thrwydded.

Bydd yn pledio'n ffurfiol i’r cyhuddiadau o gymryd cerbyd, dwyn oddi ar berson a thwyll drwy gynrychiolaeth ffug yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Medi.

Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau, gwelodd y llys luniau cylch cyfyng o O'Grady yn gadael porthladd fferi Caergybi a cherdded i ganol y dref.

Wedi iddo gerdded i'r dref, fe wnaeth yr heddlu dderbyn adroddiadau fod tacsi wedi ei ddwyn.

Roedd y tacsi yn rhan o wrthdrawiad â seiclwr ar Ffordd Llundain yn y dref.

Dioddefodd Richard Owen Roberts anafiadau difrifol, gan gynnwys dwy asen wedi torri, anaf i'w ben-glin a rhwygiad i'w afu. Cafodd ei gludo i'r ysbyty yn Stoke.

Nid yw difrifoldeb ei anafiadau wedi ei asesu yn llawn eto, ond clywodd y llys ei bod yn bosib y bydd angen llawdriniaeth arno.

'Ymddiheuriadau'

Dywedodd Diane Williams ar ran yr erlyniad fod yr heddlu o'r farn bod O'Grady "dan ddylanwad" alcohol neu gyffuriau tra'n gyrru i'r cyfeiriad anghywir ar yr A55.

Clywodd y llys fod O'Grady hefyd wedi dwyn ffôn symudol un o deithwyr y fferi rhwng Dulyn a Chaergybi ac wedi gwario £217.

Cafodd fideos eu dangos i'r llys lle'r oedd yr erlyniad yn dweud bod O'Grady yn codi ei fawd wrth iddo yrru heibio pobl.

Dywedodd Michael Strain ar ran y diffynnydd fod O'Grady yn "cyfleu ei ymddiheuriadau diffuant i'r seiclwr a gafodd ei anafu. Nid oedd ganddo unrhyw fwriad i achosi unrhyw fath o anaf.”

Roedd O'Grady yn derbyn meddyginiaeth am sgitsoffrenia ac roedd ganddo hanes o lewygu, meddai ei gyfreithiwr.

Ychwanegodd ei fod "ond yn gallu dyfalu" mai dyma beth oedd wedi digwydd. 

Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 18 Medi.

Llun: Gwasanaeth Erlyn y Goron

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.