Llong ryfel y Llynges Frenhinol yn cael ei hanfon i'r Dwyrain Canol
Mae llong ryfel y Llynges Frenhinol yn cael ei hanfon i’r Dwyrain Canol er mwyn bod yn barod i ymuno â chenhadaeth ryngwladol i ddiogelu llongau yng Nghulfor Hormuz.
Bydd HMS Dragon yn cael ei lleoli yn y rhanbarth fel ei bod yn barod i ymuno â’r genhadaeth dan arweiniad y Deyrnas Unedig a Ffrainc, unwaith y daw’r ymladd rhwng lluoedd Iran a'r Unol Daleithiau ac Israel i ben.
Mae cadoediad bregus yn parhau mewn grym ar hyn o bryd, er bod lluoedd yr Unol Daleithiau wedi taro dau dancer Iran yn ystod ymosodiadau ddydd Gwener wrth iddyn nhw geisio torri drwy blocâd Donald Trump.
Byddai’r genhadaeth, sy'n cael ei hyrwyddo gan Syr Keir Starmer ac Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron, yn cynnwys clymblaid o wledydd sy’n awyddus i sicrhau rhyddid mordwyo yng Nghulfor Hormuz - llwybr hanfodol ar gyfer cyflenwadau olew a nwy byd-eang.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Gallwn gadarnhau y bydd HMS Dragon yn cael ei hanfon i’r Dwyrain Canol i'w lleoli cyn unrhyw genhadaeth amlwladol yn y dyfodol, er mwyn diogelu llongau rhyngwladol pan fydd amodau’n caniatáu iddynt deithio drwy Gulfor Hormuz.
"Mae rhagleoli HMS Dragon yn rhan o gynllunio doeth a fydd yn sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn barod, fel rhan o glymblaid amlwladol dan arweiniad ar y cyd y Deyrnas Unedig a Ffrainc, i ddiogelu’r culfor pan fydd amodau’n caniatáu hynny."
Bydd y penderfyniad i symud HMS Dragon o ddwyrain Môr y Canoldir, lle’r oedd wedi bod yn amddiffyn canolfannau Prydeinig yn Cyprus, yn galluogi’r llong ryfel i weithredu ar unwaith pe bai’r genhadaeth yn y culfor yn cael ei lansio.
Mae’r Llywodraeth bellach yn credu bod gan Cyprus ddigon o amddiffyniad i ganiatáu i’r llong ryfel deithio i’r Dwyrain Canol.
Mae tua 40 o wledydd yn rhan o’r cynllun amlwladol i hebrwng llongau drwy’r culfor pan fydd amodau’n caniatáu hynny.