Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod 2027: Galw am anrhydeddu celfyddyd ar drothwy llywodraeth newydd

Mererid Hopwood

Mae’r Archdderwydd wedi galw am “anrhydeddu celfyddyd ac amddiffyn y Gymraeg” ar drothwy llywodraeth newydd wrth gynnal Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd.

Fe gafodd yr ŵyl gyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf ei chynnal yn Llanidloes ddydd Sadwrn.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal o leiaf flwyddyn a diwrnod cyn yr ŵyl er mwyn annog pobl yr ardal i fod yn rhan o'r paratoadau.

“Na nid mudiad gwleidyddol mo’r Orsedd, ond mae dod yn aelod ohoni yn bleidlais dros faniffesto cwbl glir,” meddai’r Archdderwydd Mererid Hopwood yn ei haraith o’r Maen Llog. 

“Ac yma yng nghanol Cymru ar y fath drothwy hanesyddol, rwy’ am fod mor hy’ a’n hatgoffa ni eto o’r maniffesto hwn heb ymddiheuro am wneud hynny chwaith, oherwydd, ta beth fydd trefn y llywodraeth newydd, rwy’n sicr y talai i bawb ystyried yr egwyddorion sy’n rhoi sail i’r gymdeithas hon.

“Ry’m ni gyd wedi tyngu llw i anrhydeddu celfyddyd ac amddiffyn y Gymraeg.

“A hon? Teyrnwialen Cyfiawnder: arwydd mai i egwyddor Chwarae Teg y byddwn ni’n deyrngar.

“Cylch yw siap yr Orsedd wedyn, nid pyramid, nid lle i’r ychydig ar y top a’r gweddill mawr ar y gwaelod, ond lle i barchu pawb yn gyfartal. 

“Ac o ran hon, y goron, capan dros dro yw hi. Mae fy nhair blynedd i bron ar ben, a braint rhywun arall fydd cael ei gwisgo ar diroedd Powys flwyddyn nesaf.

“Ac uwchlaw’r egwyddorion hyn i gyd, dyma hwn: Cleddyf Heddwch.

“Fel clywsoch chi eisoes, ac rydym fel Bwrdd wedi cytuno ar hyn – ry’m ni am atgyfnerthu ein cri dros heddwch gyda’r ddau air, ‘bydded heddwch,’  a thrwy hynny gadarnhau’r datganiad diamwys mai ofer yw ceisio trefnu teyrnas ar sail trais. 

“Mae’n dda cael datgan hyn. Mae’n loes calon bod angen gwneud.

“Ac mae’n dda cael ei ddatgan yn y gongl fach hon o ganol Cymru. Cymru. Combrogos. ‘Com’: ar y cyd. ‘Brogos’: darn o dir. Combrogos. Cymru: darn o dir a rannwn ar y cyd â’n gilydd. 

“Ac mae’r ‘ar y cyd’ yn bwysig – nid rhannu sy’n ymrannu ond rhannu sy’n cydrannu.”

‘Cyfle’

Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod y digwyddiad yn dod ag ysgolion, cymdeithasau a grwpiau cymunedol dalgylch at ei gilydd.

Wedi'r orymdaith bydd seremoni yn cael ei chynnal dan arweiniad Gorsedd Cymru, lle bydd yr Archdderwydd Mererid yn derbyn y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau gan Aled Griffiths, cadeirydd y pwyllgor gwaith.

"Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad arbennig yma," meddai Mr Griffiths.

"Dyma’r cyfle cyntaf gwirioneddol i bobl Powys a De Gwynedd fwynhau cyffro presenoldeb yr Eisteddfod yn eu hardal leol, a dyma wahoddiad i’r gymuned gyfan fod yn rhan o’r daith tuag at yr ŵyl fis Awst nesaf."

Bydd yr orymdaith yn gadael Ysgol Uwchradd Llanidloes am 14.00 ac yn dychwelyd erbyn i’r seremoni gychwyn am 15.00. 

Bydd y Rhestr Testunau sy’n cynnwys manylion holl gystadlaethau Eisteddfod 2027 ar gael mewn siopau ar draws Cymru wedi seremoni’r cyhoeddi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.