Llafur yn addo rhewi cyfraddau treth incwm yng Nghymru
Mae'r Blaid Lafur wedi addo rhewi cyfraddau treth incwm yng Nghymru os bydd y blaid yn arwain llywodraeth nesaf Cymru.
Mae'r addewid yn ganolbwynt i faniffesto Llafur Cymru a fydd yn cael ei lansio yn Abertawe ddydd Llun.
Mae'r Blaid Lafur wedi arwain bob llywodraeth yng Nghymru ers dechrau datganoli yn 1999.
Ond yn ôl arolygon barn diweddar, gallai’r bleidlais yn yr etholiad ym mis Mai ddod â'r cyfnod hwnnw i ben.
Gydag ychydig dros chwe wythnos i fynd tan yr etholiad, mae’r arolwg gan YouGov i ITV Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, wedi defnyddio’r model MPR diweddara i greu rhagolwg o sut fydd pob etholaeth yn pleidleisio.
Er gostyngiad yn y gyfran o bleidleisiau i 33%, byddai Plaid Cymru yn dal ar y blaen i fod y blaid fwyaf gyda rhagolygon yn awgrymu y gallai ennill 43 sedd, gan adael Rhun ap Iorwerth chwe sedd yn fyr o ffurfio mwyafrif yn y Senedd.
Mae Reform UK wedi cau'r bwlch ar Blaid Cymru i 27% ers yr arolwg tebyg diwethaf a fyddai, yn ôl yr arolwg newydd, yn golygu 30 aelod o'r Senedd.
Mae cynnydd i Lafur yn eu rhoi'n drydydd ar 13% byddai'n golygu 12 o seddi - sy'n golygu na fyddai plaid y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn ethol neb mewn pedair etholaeth gan gynnwys ei hetholaeth ei hun yng Ngheredigion a Sir Benfro.
'Darparu cymorth go iawn'
Mae disgwyl i'r Farwnes Morgan, sef arweinydd Llafur Cymru, ddweud bod rhewi treth incwm yn mynd i’r afael â chostau byw.
Bydd yn dweud: "Heddiw, rwy’n gwneud addewid clir i bobl Cymru: yn nhymor nesaf y Senedd, ni fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn codi treth incwm.
"Mae tegwch yn dechrau gyda deall y pwysau y mae teuluoedd yn ei wynebu, ond mae tegwch hefyd yn golygu gweithredu.
"Mae’r maniffesto hwn yn darparu cymorth go iawn gyda chostau byw.
"Byddwn yn gosod cap o £2 ar brisiau bws sengl ledled Cymru, byddwn yn cadw’r pris £1 i bobl ifanc a theithio am ddim i bobl dros 60 oed, a byddwn yn creu 20,000 o leoedd gofal plant newydd, gan ehangu’r ddarpariaeth o naw mis oed fel y gall teuluoedd weithio a chario ymlaen.
"Oherwydd bod tegwch yn golygu gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws."
Yn ogystal â mynd i’r afael â chostau byw, mae Llafur Cymru yn addo buddsoddi £4 biliwn yn y GIG, gwella’r amgylchedd trwy lanhau afonydd a mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, yn ogystal â dod â digartrefedd i ben.