Lionel Messi yn dod â’i yrfa ryngwladol i ben

Messi yn ystod ei gêm rhyngwladol olaf

Mae gyrfa ryngwladol y pêl-droediwr amryddawn Lionel Messi wedi dod i ben wrth iddo sgorio yn ei gêm olaf dros ei wlad.

Hon oedd ei 208fed gêm dros yr Ariannin ac fe sgoriodd y dyn 39 oed gic gosb yn yr ail hanner.

Mae’n golygu bod Messi wedi sgorio 126 o goliau dros yr Ariannin.

Fe wnaeth hefyd greu goliau i Nicolas Otamendi a Nico Paz yn ystod y gêm. 3-0 oedd y sgôr i’r Ariannin yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Benin.

Fe gyhoeddodd Messi ei fwriad i ymddeol o chwarae dros ei wlad ym mis Awst. Bydd yn parhau i chwarae ar lefel clwb gydag Inter Miami.

Yn ystod y gêm nos Fawrth, cafwyd cyflwyniadau, sioe oleuadau a cherddoriaeth fyw. Fe wnaeth Messi araith 10 munud o hyd i’r dorf ac yn ystod yr araith dywedodd nad oedd eisiau gadael y cae.

Pan gyhoeddodd ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, dywedodd fod y penderfyniad yn “brifo” ond “bod yr amser wedi dod”.

'Tyfu fel person' 

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd ei gyd-chwaraewr Neymar: “Nid dim ond yr Ariannin sy’n diolch i ti. Mae’r byd yn diolch i ti am bopeth rwyt ti wedi ei wneud i bêl-droed.”

Dywedodd Rodrigo De Paul, sydd wedi chwarae gyda Messi ar lefel clwb ac yn rhyngwladol, ei fod wedi cael dylanwad mawr arno.

“Fe wnaeth e fy helpu i dyfu nid yn unig fel pêl-droediwr, ond hefyd fel person.

“Fe ddes i’n berson gwell, yn fod dynol gwell, yn athletwr gwell, yn dad gwell ac yn ffrind gwell,” meddai.

Mae Messi yn cael ei ystyried yn un o’r pêl-droedwyr gorau erioed, ar ôl ennill Cwpan y Byd a dau deitl Copa América gyda’r Ariannin.

Mae hefyd wedi ennill gwobr y Ballon d’Or wyth gwaith.

Messi sydd yn yr ail safle am y nifer fwyaf o goliau yng Nghwpan y Byd, gyda 21 o goliau. Y chwaraewr o Ffrainc Kylian Mbappé sydd ar y brig gyda 22.

Messi sydd hefyd yn ail ar restr y chwaraewyr sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o goliau mewn gemau rhyngwladol, gyda 126 o goliau.

Ei wrthwynebydd mawr, Cristiano Ronaldo, sydd â’r record ar hyn o bryd gyda 146 o goliau.

Llun: Reuters 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.