Ken Skates: 'Starmer yn iawn i beidio ymddiswyddo ar ôl canlyniadau trychinebus Llafur'
Mae arweinydd dros dro Llafur Cymru wedi dweud fod Syr Keir Starmer wedi gwneud y penderfyniad cywir i beidio ag ymddiswyddo ar ôl canlyniadau trychinebus ei blaid yn yr etholiadau ym mis Mai.
Fe enillodd Ken Skates y sedd olaf yn etholaeth Fflint Wrecsam, ac mae'n arwain y Blaid Lafur yng Nghymru nes bod amserlen yn cael ei gosod ar gyfer etholiad arweinyddiaeth lawn.
Dywedodd nad oedd "un unigolyn" yn gyfrifol am golled Llafur yn etholiad y Senedd, a welodd y blaid yn colli grym am y tro cyntaf ers dechrau datganoli.
Mae Syr Keir Starmer wedi wynebu galwadau i ymddiswyddo yn sgil canlyniadau trychinebus Llafur yng Nghymru ac etholiadau lleol Lloegr.
Pan ofynnwyd a ddylai Syr Keir Starmer fod wedi ymddiswyddo, dywedodd Mr Skates: "Na, dydw i ddim, ac nid yw (cyn-Brif Weinidog Cymru, y Farwnes Eluned Morgan) wedi dweud hynny chwaith.
"Mae'r rhain yn gyfnodau anodd iawn, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n bosib nac yn iawn beio un unigolyn pan rydyn ni wedi bod yn wynebu canlyniadau 15 mlynedd neu fwy o ddirywiad economaidd, dirywiad ar draws ein cymunedau, o argyfwng Brexit i Covid.
"Nid wyf yn credu ei bod hi'n synhwyrol beio un unigolyn yn unig."
Ychwanegodd: "Mae Keir yn gwneud gwaith anhygoel, rwy'n credu, mewn cyfnodau anodd iawn."
Roedd Llafur yn arwain Cymru ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, ac yn blaid fwyaf y wlad am dros ganrif.
Fe wnaeth y Farwnes Eluned Morgan ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru ar ôl colli ei sedd yn etholiad y Senedd, gan ddweud ei bod yn cymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau'r blaid.
Dywedodd Mr Skates na ddylai'r Farwnes Morgan gymryd "cyfrifoldeb personol" am y golled.
"Dydw i ddim yn credu mai cyfrifoldeb (y Fonesig Morgan) ei hun ydyw, dw i’n credu ei bod hi’n hynod ddewr ac anrhydeddus iddi ddweud hynny," meddai.
"Ond dwi wedi teimlo dim byd ond canmoliaeth a pharch i Eluned ers y golled yn yr etholiad, dw i ddim yn credu bod neb yn ei beio hi am yr hyn a ddioddefon ni.
"Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n digwydd o dan oruchwyliaeth un person mewn cyfnod byr iawn… Roedden ni mewn grym am 27 mlynedd, ni ddylai Eluned gymryd cyfrifoldeb personol am y golled yn yr etholiad."
Disgrifiodd ei wythnosau cyntaf fel arweinydd dros dro fel rhai "anodd".
"Mae’r broses ar y gweill nawr o asesu sut y cyrhaeddon ni’r pwynt hwn," meddai.
"Bydd yn cael ei arwain gan dystiolaeth… Yr hyn a ddigwyddodd nid yn unig yn yr ymgyrch fer ond yn y misoedd a’r blynyddoedd a arweiniodd at yr etholiad.
"Byddwn yn asesu’n fforensig beth ddigwyddodd… Rwyf am ddeall pam y gwnaethom golli ymddiriedaeth, ffydd [pleidleiswyr], ac yn y pen draw eu cefnogaeth, beth oedd y ffactorau a arweiniodd at eu penderfyniad i fynd i rywle arall."
Ychwanegodd: "Bydd rhai gwirioneddau anghyfforddus yn dod i’r amlwg.
"Ond mae’n rhaid gwneud hynny os ydym am ailadeiladu ac adfer ymddiriedaeth.”"