Angen 'amddiffyn' pobl drawsryweddol Cymru ar ôl canllawiau newydd gan gorff hawliau
Mae un o weinidogion newydd Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen "amddiffyn" pobl drawsryweddol rhag gwahaniaethu ac aflonyddu yn sgil canllawiau newydd ar fannau un rhyw.
Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru wrth Senedd Cymru ddydd Mawrth fod y Llywodraeth yn gweithio i sicrhau bod polisïau datganoledig yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Ond roedd pobl drawsryweddol yn "parhau’n rhan werthfawr o’n cymunedau yng Nghymru," meddai.
Fis diwethaf, cafodd canllawiau hir-ddisgwyliedig a luniwyd gan gorff gwarchod hawliau Prydain - y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - eu cyhoeddi, gan gadarnhau bod rhaid i wasanaethau un rhyw fod ar sail rhyw biolegol.
Daeth y cod wedi’i ddiweddaru ar ôl dyfarniad gan y Goruchaf Lys ym mis Ebrill 2025, a ddywedodd fod y geiriau “menyw” a “rhyw” yn y Ddeddf Cydraddoldeb yn cyfeirio at fenyw fiolegol a rhyw biolegol.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd AS Reform, Laura Anne Jones: “Does unman i guddio nawr, does dim esgusodion ar ôl.
“Mae’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu, mae’r canllawiau wedi’u cyhoeddi, ac mae’r gyfraith yn gwbl glir," meddai.
“A wnaiff Llywodraeth newydd Cymru gyhoeddi datganiad brys yn diffinio beth yw menyw at y dibenion hyn, a rhoi amserlen bendant i ni ar sut y bydd polisïau a chanllawiau’n cael eu newid er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, fel bod y Senedd hon o’r diwedd yn gallu ceisio amddiffyn menywod a merched ledled Cymru?”
'Amddiffyn'
Dywedodd Ms Fychan, gweinidog y cabinet dros ddiwylliant a chwaraeon bod Llywodraeth Cymru "yn parchu" dyfarniad y Goruchaf Lys.
Roedden nhw'n asesu goblygiadau’r dyfarniad a chod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer gwasanaethau a chyfrifoldebau datganoledig yng Nghymru, meddai.
“Mae’r dyfarniad yn nodi’r sefyllfa gyfreithiol bresennol, ac mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod polisïau ac arferion datganoledig yn parhau i gydymffurfio â’r gyfraith," meddai.
“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni ei dyletswyddau cydraddoldeb ac yn disgwyl i bob unigolyn gael ei drin ag urddas a pharch.
“Byddwn yn cefnogi’r rhai sydd â dyletswyddau i weithredu’r gyfraith mewn ffordd deg, gyson a chyfreithlon.
“Ond, gadewch i mi fod yn gwbl glir o’r cychwyn – mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n gadarn yn ein hymrwymiad i fod yn gynhwysol.
“Mae pobl drawsryweddol yn parhau’n rhan werthfawr o’n cymunedau yng Nghymru ac yn parhau i gael eu hamddiffyn mewn cyfraith rhag gwahaniaethu ac aflonyddu.”