Gostyngiad dros dro ym mhrisiau atyniadau i deuluoedd yn dechrau

Teulu ar reid

Mae gostyngiad dros dro mewn prisiau atyniadau i deuluoedd gan gynnwys sŵau a pharciau thema wedi dechrau ddydd Iau.

Cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y mesur “Great British Summer Savings” fel rhan o becyn gyda’r nod o leddfu effaith rhyfel Iran ar gostau byw.

Mae’r toriad TAW hefyd yn cynnwys tocynnau sinema i blant a phrydau mewn bwytai,

Mae Peppa Pig World, Alton Towers a Legoland ymhlith yr atyniadau adnabyddus sy’n cymryd rhan.

Yng Nghymru, dywedodd sw Folly Farm yn Sir Benfro y byddai prisiau eu tocynnau yn gostwng 12.5% yn ystod y cyfnod dan sylw. Mae Zip World a Techniquest hefyd ymysg yr atyniadau sy'n cymryd rhan.

Ni fydd y gostyngiad yn effeithio ar brisiau tocynnau gwyliau diwylliannol sydd eisoes wedi'u hesgusodi o TAW, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae cadwyni sinema Odeon, Vue a Cineworld hefyd yn cymryd rhan, gydag Odeon yn dweud y bydd tocyn teulu i ddau oedolyn a dau blentyn yn gostwng o £32 i £28.50 yn ystod y cynllun.

Nid oes gofyniad cyfreithiol ar fusnesau i gymryd rhan yn y cynllun, sy’n rhedeg ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon tan 1 Medi.

Mae’r Trysorlys yn amcangyfrif y bydd y cynllun yn costio tua £300 miliwn.

Dywedodd y Prif Weinidog Keir Starmer: “Nid yw costau byw yn ymwneud â thalu’r biliau yn unig, mae’n ymwneud â gallu fforddio’r eiliadau sy’n bwysig gyda’ch teulu.

“Boed yn daith i’r sinema, diwrnod allan gyda’ch gilydd neu bryd teuluol, mae gormod o rieni wedi gorfod dal yn ôl oherwydd pwysau ar gyllidebau cartrefi - dyna pam rydym yn torri TAW ar ddiwrnodau allan i deuluoedd yr haf hwn.”

Dywedodd Rachel Reeves: “Rwy’n gwybod mai costau byw yw’r prif bryder i deuluoedd, ac mae’n gallu bod hyd yn oed yn anoddach dros wyliau’r haf pan mae plant eisiau gwneud pethau ac mae arian yn brin.

“Felly rydym yn ei gwneud hi ryw ychydig yn haws i deuluoedd greu atgofion gyda’i gilydd a mwynhau’r pleserau bach - gan roi hwb i fusnesau ledled y DU ar yr un pryd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.