Gohirio dedfrydu dyn ôl iddo yrru tacsi i'r cyfeiriad anghywir ar yr A55

Gyrrwr Tacsi

Mae gwrandawiad dedfrydu dyn 31 oed a yrrodd dacsi wedi’i ddwyn ar ochr anghywir yr A55 yn Ynys Môn wedi cael ei ohirio er mwyn cael adroddiad seiciatrig.

Fe gyfaddefodd Darragh O’Grady o Iwerddon iddo achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, methu â darparu sampl i’w ddadansoddi, gyrru cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti a gyrru mewn ffordd nad oedd yn unol â’i drwydded.

Ym mis Awst, fe glywodd Llys Ynadon Caernarfon ei fod wedi teithio ar ochr anghywir ffordd ddeuol yr A55, ar ôl taro beiciwr ar gyflymder o 80mya mewn tacsi wedi’i ddwyn.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Nicola Jones: “Mae niwed difrifol wedi’i achosi yma; gallai rhywun fod wedi marw.

“Mae hon yn ddedfryd sylweddol. Y mater mwyaf yw ei fod yn dweud bod ganddo sgitsoffrenia ac nad yw’n cael meddyginiaeth. 

“Mae angen adroddiad seiciatrig arnom. Mae angen asesu’r risg, gan edrych ar y penderfyniadau a wnaeth yn ystod y daith honno.”

Cyflymder o 80mya

Fe glywodd y llys yn flaenorol fod y tacsi minibws Renault wedi’i adael mewn gwesty Travelodge yng Nghaergybi. Roedd lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos O’Grady yn gadael porthladd fferi Caergybi ac yn cerdded i ganol y dref.

Erbyn iddo gyrraedd y dref, roedd yr heddlu wedi derbyn adroddiadau fod tacsi wedi cael ei ddwyn.

Roedd y tacsi yn rhan o wrthdrawiad â beiciwr ar Ffordd Llundain yn y dref.

Roedd Mr Richard Owen Roberts yn mynd ar ei feic i gyfeiriad y Fali pan gafodd ei daro ar gyflymder o tua 80mya, yn ôl llygad-dyst.

Dioddefodd Mr Roberts anafiadau difrifol. Torrodd ddwy asen, cafodd anaf i’w ben-glin a rhwygodd ei afu. Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn Stoke.

Roedd O’Grady wedi gyrru tua’r gorllewin ar ochr anghywir yr A55. Defnyddiodd yr heddlu ddyfais ‘Stinger’ i’w atal.

Roedd y diffynnydd hefyd wedi dwyn ffôn symudol teithiwr ar fferi o Ddulyn i Gaergybi ac wedi gwario £217.

Dywedodd y Barnwr Jones yn y llys fore heddiw: “Nid wyf yn fodlon bwrw ymlaen heb adroddiad seiciatrig.”

Mae’r achos wedi cael ei ohirio tan 10 Tachwedd, ac fe fydd O’Grady yn aros yn y ddalfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.