Gemau'r Gymanwlad: Medalau aur arall i Finucane a Morris yn Glasgow
Mae’r Cymry wedi ennill rhagor o fedalau ar ddiwrnod olaf ond un Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow.
Daeth trydedd fedal aur i Emma Finucane yn y ras yn erbyn y cloc dros un cilomedr gan dorri record y Gymanwlad wrth ennill.
Fe orffennodd o flaen y pencampwriag Olympaidd, Ellesse Andrews, o Seland Newydd a Claudia Marcks o Awstralia i orffen ar frig y gystadleuaeth.
Yn gynharach daeth ail aur i Anna Morris ar y trac seiclo yn y ras bwyntiau dros 25 cilomedr yn Felodrom Syr Chris Hoy brynhawn Sadwrn gyda Jess Roberts yn cipio'r fedal arian yn yr un ras.
Fe enillodd James Ball a’i lywiwr Matthew Rotherham fedal arian yn y ras dandem yn erbyn yr Alban.
Fe enillodd yr Albanwyr y ras gyntaf, yn yr orau o dair ras, gyda’r Cymry’n taro nôl yn yr ail i orfodi trydedd ras.
Roedd drama yn y drydedd ras pan gwympodd criw'r Alban ar ôl taro yn erbyn olwyn gefn beic y Cymry.
Bu'n rhaid i'r ras ail-ddechrau ond y tro hwn, roedd y seiclwyr cartref yn rhy gryf gan ennill y fedal aur.
Roedd yn ddiwrnod pen-blwydd hapus yn 23 oed i Orlando Holley-Sotomi o Gasnewydd a gipiodd fedal arian yn erbyn Jon McConnell o Ogledd Iwerddon aeth a’r aur yn y bocsio 70kg i ddynion.
Medal arian hefyd oedd hanes Connor Williams o Abertawe yn erbyn Isaac Okoh o Loegr yn y pwysau 90kg.
Daeth y medalau yma â chyfanswm medalau Cymru i 29, un yn well na Birmingham bedair blynedd yn ôl , er bod yna llai o gystadlaethau yn Glasgow.
Llun: Tîm Cymru