Galw am gryfhau diogelwch ffiniau ar ôl mewnfudo torfol i Ceuta

Ceuta

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi galw am gryfhau diogelwch ffiniau ar ôl mewnfudo torfol i Ceuta.

Mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, wedi galw am “weithredu ar y cyd” i gryfhau diogelwch ffiniau’r Undeb Ewropeaidd. Daw hyn wedi yr hyn a ddisgrifiwyd fel “mewnlifiad digynsail” o ymfudwyr i diriogaeth Ceuta.

Fe wnaeth degau o filoedd o bobl groesi’r ffin rhwng Moroco a’r diriogaeth Sbaenaidd yng ngogledd Affrica dros gyfnod o ychydig ddyddiau’r wythnos ddiwethaf.

Mae cysylltiad Sbaen a Ceuta yn debyg iawn i diriogaeth Gibraltar â’r DU.

Yn ôl awdurdodau Sbaen, mae tua 70,000 o fudwyr eisoes wedi’u dychwelyd i Foroco. Er hynny mae miloedd yn parhau yn Ceuta wrth i’r awdurdodau geisio delio â’r sefyllfa.

Mae’r digwyddiadau wedi rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau lleol ac wedi arwain at ddefnyddio lluoedd diogelwch ychwanegol i reoli’r ffin a chynnal cyfraith a threfn.

Mewn datganiad, dywedodd Ursula von der Leyen fod diogelwch ffiniau allanol yr Undeb Ewropeaidd yn gyfrifoldeb ar y cyd i bob aelod-wladwriaeth.

Dywedodd fod angen ymateb Ewropeaidd ar y cyd i sicrhau bod ffiniau’r bloc yn cael eu diogelu, tra’n parhau i weithredu yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol tuag at bobl sy’n ceisio lloches.

Mae Llywodraeth Sbaen wedi bod mewn cysylltiad agos ag awdurdodau Moroco ers i’r argyfwng ddechrau. Mae'r ddwy ochr yn cydweithio i ddychwelyd nifer fawr o fudwyr ac i geisio atal rhagor o groesfannau anghyfreithlon.

Mae Ceuta, ynghyd â Melilla, yn un o ddwy diriogaeth Sbaenaidd ar gyfandir Affrica. O achos eu bod yn rhan o Sbaen ac o’r Undeb Ewropeaidd, maent wedi bod yn fan cyrchfan i ymfudwyr sy’n ceisio cyrraedd Ewrop ers blynyddoedd.

Mae’r digwyddiadau diweddar wedi ailgynnau’r ddadl ynghylch polisïau mudo’r Undeb Ewropeaidd, gyda sawl aelod-wladwriaeth yn galw am gryfhau rheolaethau ar y ffiniau. Ond mae sefydliadau hawliau dynol wedi bod yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod hawliau’r rhai sy’n ceisio lloches yn cael eu parchu.

Y disgwyl yw y bydd nifer o aelodau'r UE yn trafod y sefyllfa yn ystod y dyddiau nesaf er mwyn ystyried pa gamau pellach y dylid eu cymryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.