Dyn enwog yn colli cais am orchymun i atal adrodd ar honiadau
Rhybudd: Mae'r erthygl yn trafod hunanladdiad.
Mae dyn enwog wedi colli ei gais am orchymun gan yr Uchel Lys i atal gwasanaethau newyddion rhag cyhoeddi honiadau yn ei erbyn.
Fe wnaeth y dyn gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Independent Television News (ITN), sy’n cynhyrchu rhaglenni newyddion ar gyfer ITV, Channel 4, Good Morning Britain a Channel 5, a Guardian News and Media (GNM), sy’n cyhoeddi The Guardian.
Er iddo golli'r cais, does dim modd ei enwi eto er mwyn rhoi cyfle iddo apelio.
Yn ystod achos deuddydd ddiwedd mis Hydref, dywedodd cyfreithwyr ITN a GNM wrth yr Uchel Lys yn Llundain fod yr honiadau yr oedden nhw am adrodd arnyn nhw yn ymwneud â’r dyn yn honedig yn “camddefnyddio grym a statws” i gysylltu â menywod ifanc a cheisio cymryd rhan mewn “gweithgareddau rhywiol amhriodol sy’n camfanteisio arnyn nhw”.
Roedd y dyn adnabyddus, sy’n gwadu’r honiadau, yn ceisio gwaharddeb (injuction) i atal y deunydd rhag cael ei ddarlledu a’i gyhoeddi oherwydd y risg y byddai’n lladd ei hun.
Mewn dyfarniad ddydd Mawrth, fe wnaeth y Barnwr Nicklin wrthod y cais am waharddeb, gan ddweud mewn crynodeb o’i ddyfarniad: “Cafodd cais yr hawlydd am waharddeb ei wrthod.
“Ni wnaeth y llys benderfynu a oedd yr honiadau, neu unrhyw un ohonyn nhw, yn wir, ac nid yw gwrthod y cais yn golygu bod y llys yn cymeradwyo unrhyw ddeunydd y gallai’r diffynyddion benderfynu ei gyhoeddi.”
Ychwanegodd y byddai enw’r dyn yn parhau’n gyfrinachol er mwyn caniatáu amser i gyflwyno unrhyw geisiadau i apelio.
'Dyletswydd'
Roedd Sara Mansoori CB, ar ran y dyn sydd heb ei enwi, wedi dweud yn gynharach ei fod yn gwadu’r honiadau ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac y gallai cyhoeddi’r deunydd “gael effaith angheuol”.
Dywedodd wrth y llys: “Yr unig reswm na fyddai’r effaith yn angheuol yw y byddai’r hawlydd yn cael ei gadw dan glo a’i atal rhag cyflawni ei ddymuniad i ddod â’i fywyd i ben.”
Dywedodd y bargyfreithiwr hefyd nad oes gan yr hawlydd “unrhyw fwriad i ddychwelyd i fywyd cyhoeddus”.
Dywedodd Gavin Millar CB, ar ran ITN a GNM, nad oedd "asesu'r hyn sy'n achosi meddyliau am hunanladdiad" yn fater "i farnwr” ond yn hytrach i weithwyr proffesiynol yn y maes.
Ychwanegodd: “Yr ysbyty sydd â’r ddyletswydd i’w gadw’n ddiogel, a dyna ni.”
Dywedodd yn ddiweddarach: “Mae’n amlwg y byddai’r deunydd y bwriedir ei gyhoeddi yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at drafodaeth o bwys cyhoeddus, am ddynion yn defnyddio eu grym i allu ymddwyn yn amhriodol tuag at fenywod yn y rhan honno o gymdeithas.”
Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae cefnogaeth ar gael yma.