Dyfodol Tafarn y Glôb yn y fantol ar ôl i’r adeilad gael ei feddiannu
Mae dyfodol un o dafarndai Cymraeg mwyaf adnabyddus Bangor yn y fantol ar ôl i’r adeilad gael ei feddiannu.
Mae hysbysiad sydd wedi’i osod ar ddrws Tafarn y Glôb yn nodi bod Stonegate Pub Company wedi meddiannu’r safle ar ran Social Cellar (Gamma) Ltd, sef y cwmni sy’n berchen ar yr adeilad.
Mae drws diogel bellach wedi’i osod wrth y brif fynedfa er mwyn rhwystro pobl rhag mynd i mewn i’r adeilad tra ei fod yn wag.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Stonegate Pub Partners: “Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am dafarnwr newydd i gymryd yr awenau yn Tafarn y Glôb, ac edrychwn ymlaen at groesawu’r gweithredwr cywir.
“Rydym yn gobeithio ailagor y dafarn cyn gynted â phosib.”
Yn ôl yr hysbysiad, mae’r brydles wedi’i therfynu a’r eiddo wedi’i ddiogelu.
Daw’r datblygiad ar ôl i berchnogion Tafarn y Glôb gyhoeddi ym mis Mehefin fod y dafarn wedi cau dros dro yn sgil “amgylchiadau anodd dros ben”.
Dywedodd y perchnogion ar y pryd eu bod yn gobeithio mai mesur “dros dro” fyddai’r cau ac y byddai modd ailagor y dafarn yn y dyfodol.
Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu â’r unigolion oedd yn rhedeg Tafarn y Glôb, ond ni chafwyd unrhyw ymateb.
Cyfnod heriol
Mae Tafarn y Glôb yn dafarn draddodiadol sydd wedi bod yn boblogaidd gyda myfyrwyr a’r gymuned Gymraeg ym Mangor ers blynyddoedd.
Ond mae dyfodol y safle wedi bod yn ansicr ers iddi gau ym mis Mehefin.
Mewn neges a gafodd ei gosod ar ddrws y dafarn a’i chyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol bryd hynny, dywedodd y perchnogion: “Helo bawb. Oherwydd amgylchiadau anodd dros ben, mae’n rhaid i’r Glôb gau am gyfnod.
“Gobeithio mai dros dro y bydd hyn - mwy o fanylion i ddilyn.”
Mae cofnodion Tŷ’r Cwmnïau hefyd yn dangos bod Tafarn Y Glôb Cyf wedi cyflwyno cais i ddileu’r cwmni o gofrestr Tŷ’r Cwmnïau ym mis Rhagfyr 2025.
Cafodd y broses o ddileu’r cwmni ei hatal ym mis Ionawr 2026.
Nid oes cyfrifon mwy diweddar na rhai 2023 wedi’u cyflwyno gan y cwmni, er bod rhaid i gwmnïau cyfyngedig gyflwyno cyfrifon blynyddol i Dŷ’r Cwmnïau.
Yn ôl cyfrifon diweddaraf Tafarn Y Glôb Cyf, sy’n ymwneud â’r flwyddyn hyd at 31 Rhagfyr 2023, roedd gan y cwmni rwymedigaethau net o £45,615.
Roedd hynny’n gynnydd o fwy na £17,000 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, pan oedd gan y cwmni rwymedigaethau net o £28,486.
Roedd gan y cwmni asedau gwerth £25,014, ond roedd £75,031 yn ddyledus i gredydwyr o fewn blwyddyn.
Nid yw’n eglur beth yw sefyllfa ariannol gyfredol y dafarn oherwydd nad oes cyfrifon wedi cael eu cyflwyno ers 2023.
Busnesau eraill
Mae cofnodion Tŷ’r Cwmnïau yn dangos cysylltiadau rhwng Tafarn y Glôb a busnesau Cymraeg eraill yng Ngwynedd.
Yn ogystal â Tafarn y Glôb, mae D & N Jones Limited yn berson â rheolaeth sylweddol dros Bragdy Nonsens a Siop Jac y Do yng Nghaernarfon.
Sefydlwyd Bragdy Nonsens yn 2023, ac mae’n cynhyrchu cwrw crefft o’i safle yn Noc Fictoria.
Yn 2025, dechreuwyd proses i ddileu’r cwmni o gofrestr Tŷ’r Cwmnïau, ond cafodd y broses ei hatal yn ddiweddarach.
Erbyn mis Awst 2025, roedd cofnodion Tŷ’r Cwmnïau yn dangos bod y cwmni wedi cael arian gan Gronfa Fuddsoddi Cymru, sy’n darparu benthyciadau i fusnesau bach.
Nid yw’r cofnodion yn nodi faint o arian a gafodd y cwmni na beth oedd pwrpas y cyllid.
Sefydlwyd bar Siop Jac y Do ar Stryd y Farchnad yng Nghaernarfon yn 2023, ac mae’r busnes hefyd o dan reolaeth D & N Jones Limited.
Y llynedd, cyhoeddodd y busnes ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn cau ei safle yng nghanol y dref ac yn symud i Ddoc Fictoria i ymuno â Bragdy Nonsens.
Mae cyfrifon diweddaraf Siop Jac y Do, ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Rhagfyr 2024, yn dangos rhwymedigaethau net o £48,748.
Roedd gan y cwmni £19,520 mewn asedau, o gymharu â £67,057 a oedd yn ddyledus i gredydwyr o fewn blwyddyn.
Er bod Bragdy Nonsens wedi cynnal digwyddiad i nodi ei agoriad ym mis Medi 2025, nid yw’n ymddangos bod y busnes ar agor i gwsmeriaid ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Newyddion S4C hefyd geisio holi’r perchnogion am ragor o wybodaeth am y busnesau, ond ni chafwyd unrhyw ymateb.