Digwyddiadau coffa er mwyn nodi tair blynedd ers ymosodiadau Hamas
Mae digwyddiadau coffa yn cael eu cynnal ar draws Israel er mwyn nodi tair blynedd ers ymosodiadau Hamas ar y wlad.
Cafodd tua 1,200 o bobl eu lladd a chafodd 251 arall eu cymryd yn wystlon ar 7 Hydref 2023. Hwn oedd y diwrnod unigol mwyaf marwol i Iddewon ers yr Holocost.
O’r 251 o wystlon a gafodd eu herwgipio, cafodd 168 eu rhyddhau neu eu hachub, ond cafodd 83 ohonyn nhw eu lladd.
Fe ddechreuodd y digwyddiadau coffa gyda munud o dawelwch am 06:29 (amser lleol) er mwyn nodi’r amser y dechreuodd yr ymosodiad.
Mae pobl hefyd wedi bod yn ymweld â safle gŵyl gerddoriaeth Nova. Yno, cafodd 378 o bobl eu lladd a 44 o unigolion eu cymryd yn wystlon.
Fe wnaeth Israel daro’n ôl yn dilyn yr ymosodiad. Yn ôl y Weinyddiaeth Iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hamas, mae mwy na 74,200 o bobl wedi cael eu lladd yn Gaza ers 7 Hydref 2023.
Mae hi bron yn flwyddyn ers i gadoediad gael ei gytuno yn Gaza rhwng Israel a Hamas er mwyn atal yr ymladd.
Fe gytunodd y ddwy ochr i gynllun heddwch 20 pwynt Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump. Ond ers hynny, mae mwy na 1,460 o bobl wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau gan Israel yn Gaza, yn ôl y Weinyddiaeth Iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hamas.
Mae byddin Israel wedi dweud ei bod yn gweithredu “mewn ffordd fanwl gywir i gael gwared ar fygythiadau ac amddiffyn ei milwyr a sifiliaid Israel, yn unol â’r cytundeb”.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae’r amodau yn Gaza yn “llethol”, gyda nifer yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i fwyd, dŵr a meddyginiaeth.
Y llynedd, fe ddywedodd prif gymdeithas ysgolheigion hil-laddiad y byd fod Israel yn cyflawni hil-laddiad yn Gaza.
Mae Israel wedi gwadu’r honiad ac wedi dweud bod ei gweithredoedd yn rhai o hunanamddiffyn.
Llun: Reuters