Teulu’n cynnal protest i alw am symud John Gizzi o Garchar y Berwyn

Protest teulu'r Farahs

Mae teulu a ffrindiau mam o Sir Conwy sydd ag anafiadau difrifol i’w hymennydd wedi cynnal protest y tu allan i garchar yng ngogledd Cymru yn galw am symud y troseddwr John Gizzi i garchar gwahanol.

Cafodd John Gizzi, 55 oed, o Lanelwy, ei garcharu am bedair blynedd ac 11 mis yn gynharach y mis hwn yn dilyn dros flwyddyn o gamdriniaeth gorfforol a geiriol yn erbyn ei gyn-bartner, Natasha Farah.

Mae Ms Farah, 31 oed, yn fam i un plentyn ac yn dod o Landrillo-yn-Rhos.

Plediodd y cyn-gangster Gizzi yn euog i dair trosedd fis Hydref, sef ymddygiad o reolaeth drwy orfodaeth, tagu bwriadol a methu â darparu cyfrinair ei ffôn i swyddogion yr heddlu.

Wrth ei garcharu am bedair blynedd ac 11 mis, dywedodd y Barnwr Simon Mills ei fod yn “un o'r achosion o ymddygiad rheolaethol gwaethaf, o fewn cyd-destun camdriniaeth ddomestig, y mae modd ei ddychmygu”.

Mae Gizzi wedi cael ei gadw yn y ddalfa ym Merwyn ers cael ei gyhuddo o’r troseddau, ac mae Newyddion S4C ar ddeall ei fod yn parhau yn y carchar categori C, sydd ar gyffiniau Wrecsam.

Image
John gizzi
John Gizzi

Ddydd Iau, fe wnaeth tua 15 o bobl gynnal protest y tu allan i’r carchar yn galw am iddo gael ei symud i garchar y tu allan i ogledd Cymru.

Dywedodd chwaer Natasha Farah, Samantha Farah, wrth Newyddion S4C bod cadw Gizzi mor agos i’w theulu yn “yn achosi poen meddwl”.

“'Da ni ddim isho fo gael ei gadw yng Ngharchar Berwyn,” meddai.

“Mae o tua 40, 50 munud i lawr y lôn o’i gartref a’i deulu, ac mae’n le braf iawn iddo yna.

“Mae ganddo ddylanwad mawr ar bobl yng ngogledd Cymru a 'da ni ddim yn hapus hefo’r sefyllfa.”

Ychwanegodd Samantha Farah: “Fe wnaethon ni greu lot o sŵn yno. 

“Roedd tua 15 ohonom ni yna ac roedd yn rili da gallu mynd yna a gwneud yn siŵr fod pawb yn ein clywed ni.

“Dwi’n mor falch ein bod ni wedi gwneud hyn, a dwi’n gobeithio byddan ni’n gallu mynd yn ôl os ydi o’n mynd i aros yna.”

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gyfiawnder Llywodraeth y DU, sydd yn gyfrifol am garchardai’r wlad: “Roedd y rhain yn droseddau erchyll ac mae ein meddyliau’n parhau gyda’r dioddefwraig.

Image
Denise Farah gyda Natasha a Samantha
Natasha (canol) yn dathlu ei phen-blwydd gyda'i mam Denise a'i chwaer Samantha, fis cyn iddi ddioddef anaf difrifol i'w hymennydd (Llun teulu)

“Mae’r Gwasanaeth Atal Cyswllt yn bodoli er mwyn diogelu dioddefwyr rhag derbyn cyswllt gan y rhai sy’n gyfrifol am eu cam-drin, sydd yn y carchar. 

“Fe allai unrhyw ddioddefwr, neu aelod o’u teulu, wneud y cais i beidio â derbyn cyswllt.”

Cafodd Natasha Farah ei chanfod gan Gizzi gydag anafiadau difrifol yn ei chartref fis Ebrill eleni.

Saith mis yn ddiweddarach, mae hi'n parhau yn yr ysbyty yn derbyn gofal dwys ddydd a nos, gydag anafiadau "catastroffig" i'w hymennydd.

Nid yw ei theulu yn sicr a fydd yn gallu siarad neu gerdded fyth eto.

Nid oes tystiolaeth mai Gizzi oedd yn gyfrifol am yr anafiadau, ac mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel ymgais i gyflawni hunanladdiad.

Mae cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi cefnogi galwadau'r teulu am ailedrych ar ddedfryd Gizzi gan ofyn iddi gael ei chyfeirio at y Llys Apêl.

Mae Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol yn dweud ei bod wedi derbyn nifer o geisiadau i adolygu dedfryd Gizzi, a bod rhaid penderfynu a ddylid cyfeirio'r achos at y Llys Apêl o fewn 28 diwrnod i'r ddedfryd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.