Cynlluniau i warchod llyfrgell lle bu farw David Lloyd George

Llyfrgell David Lloyd George
Llyfrgell Lloyd George

Mae cynlluniau i wneud gwaith cadwraeth ar blasty rhestredig Gradd II yng Ngwynedd, lle treuliodd David Lloyd George ei ddyddiau olaf.

Mae’r gwaith adfer wedi’i gynllunio i Tŷ Newydd, yr eiddo lle bu farw cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Prynodd y gwleidydd yr eiddo yn Llanystumdwy, y pentref lle treuliodd ei blentyndod, yn 1939 er mwyn ymddeol yno.

Bu farw Lloyd George yn llyfrgell y tŷ ar 26 Mawrth 1945, wedi salwch byr.

Mae gan y tŷ gysylltiad hefyd â dylunydd y pentref Eidalaidd Portmeirion, Clough Williams-Ellis.

Ail-fodelodd y pensaer yr eiddo ar gyfer y cyn-Brif Weinidog a’i wraig yn ystod y 1940au.

Bellach, mae Tŷ Newydd yn denu enwau amlwg o’r byd llenyddol fel Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, sy’n cael ei rhedeg gan Llenyddiaeth Cymru.

Gwaith strwythurol

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais llawn i osod cynhaliaeth strwythurol i gwpl (truss) to wedi’i addasu uwchben y llyfrgell, yn ogystal â gosod platiau wal newydd i gynnal nenfwd yr ystafell.

Yn ôl y dogfennau cynllunio: “Wrth i iechyd Lloyd George waethygu, fe wnaeth Clough ailwampio’r tŷ yn llwyr.

“Daeth y llyfrgell yn ganolbwynt drwy ychwanegu nenfwd cromennog (vaulted ceiling), chandeliers lliw hufen a ffenestr fae hanner cylch.”

Mae’r dogfennau hefyd yn dweud bod Lloyd George, wrth i’w iechyd waethygu, wedi gofyn i’w wely gael ei symud at ffenestr y llyfrgell er mwyn iddo allu gweld Bae Ceredigion.

Bu farw yn 82 oed. Daeth torfeydd i’r pentref bychan ar gyfer ei angladd, gan wylio wrth i’w arch gael ei chludo ar gert fferm i’w fedd gerllaw ar lan Afon Dwyfor.

Image
Y Ty ar Llyfrgell Heddiw
Tŷ Newydd a'r llyfrgell heddiw

Mae’r cynlluniau’n dweud bod y cyfuniad o’r nenfwd cromennog a’r ffenestr fae hanner cylch yn creu argraff wrth gerdded i mewn i’r llyfrgell.

“Mae’r cyfuniad prin hwn yn drawiadol i’r llygad, ond mae hefyd yn cynnig profiad acwstig unigryw,” meddai’r dogfennau.

“Mae’n bosib clywed rhywun yn sibrwd wrth y ffenestr fae o ochr arall yr ystafell, oherwydd siâp yr arwynebau crwm.

“O ganlyniad, mae gan yr ystafell hon werth esthetig a synhwyraidd uchel iawn.

“Does dim amheuaeth bod mewnbwn Clough Williams-Ellis wedi dylanwadu’n gryf ar olwg yr ystafell.

“Mae’r chandeliers wedi’u hadfer a’u hailddefnyddio, y to crwm a’r ffenestr fae oll yn nodweddion sydd i’w gweld drwy waith Clough, gan gynnwys yng Ngwesty’r Angel ym Mhortmeirion.”

Craciau yn y nenfwd

Yn ôl y cais, mae’r nenfwd yn symud ar hyn o bryd, ac mae hynny’n effeithio ar werth esthetig y llyfrgell.

“Prif nod y gwaith arfaethedig sydd wedi’i nodi yn yr asesiad effaith treftadaeth hwn yw mynd i’r afael â’r symudiad er mwyn gwarchod y nenfwd,” meddai’r dogfennau.

Ychwanegodd y cynlluniau fod asesiad strwythurol o’r craciau yn y nenfwd wedi darparu “tystiolaeth bendant” bod angen gwaith adfer strwythurol.

Dywedwyd bod angen y gwaith er mwyn gwarchod y llyfrgell a sicrhau y gall pobl barhau i’w gwerthfawrogi yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.