Cyngor i gymryd gofal yn ystod y diffyg ar yr haul nos Fercher

ecliips

Fe fydd y diffyg ar yr haul ('solar eclipse') mwyaf ers 54 mlynedd yn ymddanos yn yr awyr nos Fercher, ac mae arbenigwyr yn cynghori pobl i gymryd gofal gan ddefnyddio dulliau diogel o wylio'r olygfa drawiadol. 

Bydd mwy na 90% o’r Haul yn cael ei guddio gan y Lleuad rhwng 18.17 ac 20.06 ar 12 Awst.

Dyma fydd y rhan fwyaf o’r Haul i gael ei guddio uwchben y DU ers yr eclips llwyr ym 1999.

Ond mae arbenigwyr wedi rhybuddio’r cyhoedd nad yw sbectol haul yn ddull digon diogel i weld yr hyn fydd yn digwydd yn yr awyr.

Dywedodd Imo Bell o Arsyllfa Frenhinol Greenwich: “Nid eclips llwyr ydyw, ond mae’r ffaith bod dros 90% yn cael ei guddio yn gyffrous iawn. 

"Ni fyddwn yn cael un mor dda â hyn am amser hir iawn.

“Felly mae’n bwysig peidio â’i golli, a bod yn barod. Ni allwch chi fynd allan a disgwyl edrych arno, oherwydd mae’n beryglus iawn i’ch llygaid.”

Ychwanegodd: “Gallwch ddefnyddio sbectol eclips solar, sy’n wahanol iawn i sbectol haul - maen nhw’n rhwystro cymaint o olau fel na allwch weld dim byd drwyddynt ac eithrio’r Haul; dyna faint o olau sydd angen ei rwystro er mwyn gwneud hi’n ddiogel i edrych ar olau niweidiol yr Haul.

“Yn ddelfrydol, mae telesgop solar yn ffordd wych o weld y digwyddiad, ac os nad oes un gennych chi, gallwch wirio a yw eich cymdeithas seryddiaeth leol yn trefnu unrhyw ddigwyddiadau.

“Ac os nad oes opsiwn arall ar gael, gallwch daflunio delwedd o’r eclips gan ddefnyddio eitem fel colandr sydd â llawer o dyllau ynddo - pwyntiwch y colandr at yr Haul tra byddwch yn sefyll gyda’ch cefn ato, ac yng nghysgod y colandr byddwch yn gallu gweld yr eclips yn y tyllau; mae hynny’n beth gwych iawn.”

Y tro nesaf y bydd y Lleuad yn cuddio cymaint o'r Haul fydd yn 2081, a'r eclips haul llwyr nesaf yn y DU fydd yn 2090.

Mae disgwyl i rannau mwyaf gorllewinol Sir Benfro, Dyfnaint a Chernyw weld y diffyg ar ei fwyaf, gydag amrediad o 94% i 96% o'r haul wedi'i guddio gan y lleuad.

Fe fydd gweddill Cymru, Gogledd Iwerddon a rhannau o Orllewin Canolbarth Lloegr a de orllewin Lloegr yn gallu gweld rhwng 92% a 94% o'r diffyg ar yr haul. 

Yng Nghaerdydd, mae disgwyl i'r lleuad guddio tua 93.24% o'r haul am 19:13.

Llun: PA

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.