Cymru Premier: Rhydaman yn croesawu Cei Connah

CPD Cei Connah

Dyma gipolwg ar yr un gêm sydd yn cael ei chwarae yn y Cymru Premier ddydd Sadwrn

Rhydaman (12fed) v Cei Connah (5ed) | Dydd Sadwrn – 12:30 

Bydd Cei Connah yn disgwyl ei gwneud hi’n dair buddugoliaeth yn olynol ar eu taith i Rydaman ddydd Sadwrn.

Callum West yw prif grêwr y gynghrair (5) ac mae Hussein Mehasseb yn gydradd brif sgoriwr (4) yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus y Nomadiaid o 6-0 yn erbyn Trefelin nos Wener diwethaf.

Daeth unig bwynt Rhydaman hyd yma yn eu gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Bae Colwyn (Aman 2-2 Bae), felly bydd Wyn Thomas yn gobeithio y gall ei dîm sicrhau canlyniad annisgwyl arall ar Y Rec y penwythnos hwn.

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau dîm yma wrth i Rydaman geisio hawlio eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair.

Record cynghrair diweddar: 

Rhydaman: ͏❌➖❌

Cei Connah: ͏❌✅✅

Llun: CPD Cei Connah

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.