Cymru Premier JD: Cipolwg ar gemau Dydd Gwener y Groglith
Dwy rownd gemau sydd ar ôl yn nhymor y Cymru Premier JD, ac mae’r cyffro’n cynyddu yn y Chwech Isaf.
Bydd yn rhaid i’r Bala guro Llanelli brynhawn Gwener os am unrhyw obaith o aros yn y gynghrair, ond os bydd Y Fflint yn curo Hwlffordd, yna bydd y frwydr ar ben i’r Bala.
Mae Llansawel driphwynt yn glir yn y ras am y 7fed safle, ac fe allai’r Adar Gleision sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle, os bydd canlyniadau yn mynd o’u plaid brynhawn Gwener.
Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu pumed pencampwriaeth yn olynol, ac mae Cei Connah wedi hawlio’r ail safle, ac felly bydd y ddau glwb yn cynrychioli Cymru yn Ewrop dros yr haf.
Ar brynhawn Sul 12 Erill, fe fydd Caernarfon a’r Fflint yn cystadlu am y trydydd tocyn i Ewrop yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD, ac yna bydd y pedwerydd safle Ewropeaidd yn mynd i enillwyr y gemau ail gyfle.
CHWECH UCHAF
Bae Colwyn (3ydd) v Caernarfon (6ed) | Dydd Gwener – 14:30
Mae Bae Colwyn yn mynd o nerth i nerth ac wedi dringo i’r 3ydd safle, a byddai triphwynt i’r Gwylanod ddydd Gwener yn ddigon i sicrhau gêm gartref yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.
Mae Caernarfon wedi llithro i’r 6ed safle ar ôl ennill dim ond un o’u naw gêm gynghrair yn 2026, ond fe ddaeth y fuddugoliaeth honno yn y gêm gyfatebol yn erbyn Bae Colwyn ym mis Chwefror.
Bydd y Cofis yn cystadlu yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed ar y 12fed o Ebrill, a byddai ennill y cwpan yn caniatau i’r Caneris chwarae’n Ewrop y tymor nesaf.
Ond ar ôl ennill dim ond dwy o’u 15 gêm gynghrair ddiwethaf, bydd y Cofi Army ychydig yn betrusgar cyn wynebu’r Fflint yn y ffeinal.
Hon fydd y chweched gornest rhwng y clybiau’r tymor yma, a Caernarfon sydd wedi cael y gorau o bethau hyd yma, yn curo tîm Michael Wilde unwaith yn y gynghrair, yng Nghwpan Nathaniel MG, ac yng Nghwpan Cymru.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅❌✅✅➖
Caernarfon: ͏❌✅❌❌❌
Pen-y-bont (5ed) v Y Barri (4ydd) | Dydd Gwener – 14:30
Ar ôl dechrau’r ymgyrch yn gryf, mae tymor Pen-y-bont wedi mynd ar chwâl ers mis Tachwedd.
Dechreuodd y dymchwel ar Ffordd Llanelian ym mis Tachwedd gyda’r Gleision yn colli o 5-4 yn erbyn Bae Colwyn, ac ers hynny dyw Pen-y-bont m’ond wedi ennill unwaith mewn 14 o gemau (vs Llanelli).
Dyw Pen-y-bont heb guro clwb o’r Chwech Uchaf ers mis Medi (vs Bae Colwyn), a dyw tîm Rhys Griffiths heb sgorio mwy nac unwaith mewn gêm ers y golled o 5-4 yn erbyn Gwylanod Mike Wilde ym mis Tachwedd.
Mae’r Barri wedi perfformio’n gadarn yn ddiweddar gan ennill pump o’u saith gêm ddiwethaf a chadw pedair llechen lân.
Mae hi wedi bod yn dymor rhagorol i’r Dreigiau dan arweiniad Steve Jenkins gyda’r tîm yn cyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers pum mlynedd, a chodi Cwpan y Cynghrair am y tro cyntaf ers chwarter canrif.
Mae’r record benben wedi bod yn hafal rhwng y timau’r tymor hwn, gyda Pen-y-bont yn ennill ym mis Awst, gêm gyfartal ym mis Rhagfyr, a’r Barri’n ennill ym mis Mawrth.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌❌❌❌➖
Y Barri: ✅✅❌✅➖
Y Seintiau Newydd (1af) v Cei Connah (2il) | Dydd Gwener – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau pencampwriaeth y Cymru Premier JD am y 18fed tro yn eu hanes, ac am y pumed tymor yn olynol.
Ond er y llwyddiant yn y gynghrair, mae’n bosib y bydd eleni’n cael ei gyfri fel tymor siomedig i’r Seintiau gan mae dim ond un tlws fydd yn mynd i Groesoswallt, a’u bod wedi cyflawni o leiaf dwbl domestig mewn 10 o’u 12 tymor blaenorol.
Yn nhymor cyntaf John Disney wrth y llyw, mae Cei Connah wedi sicrhau’r ail safle gan gadarnhau eu lle yn Ewrop ar gyfer y tymor nesaf.
Mae’r Nomadiaid wedi chwarae’n gyson ar y llwyfan Ewropeaidd yn y degawd diwethaf, ond ar ôl tymor o seibiant ar ôl gorffen yn 8fed llynedd, bydd selogion Cei Connah yn paratoi am antur arall yn Ewrop eleni.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill tair o’u pedair gornest yn erbyn Cei Connah y tymor hwn, yn cynnwys buddugoliaeth o 2-1 ar Gae y Castell fis diwethaf i sicrhau’r bencampwriaeth.
Bydd yna barti yng Nghroesoswallt wedi’r gêm ddydd Gwener gan y bydd y Seintiau’n cael codi’r tlws wedi’r chwiban olaf yn Neuadd y Parc.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅❌✅
Cei Connah: ❌❌✅✅➖
CHWECH ISAF
Llanelli (12fed) v Y Bala (11eg) | Dydd Gwener – 14:30 (Yn fyw arlein)
Mae’r frwydr bron ar ben i’r Bala, a byddai colled neu gêm gyfartal ar Barc Stebonheath ar ddydd Gwener y Groglith yn ddigon i yrru’r clwb i’r ail haen.
Hyd yn oed pe bae’r Bala’n ennill yn Llanelli, mi fyddai’r clwb yn dal yn gallu disgyn os bydd Y Fflint yn llwyddo i guro Hwlffordd.
Gemau olaf:
Llanelli: Y Bala (c), Hwlffordd (oc)
Y Bala: Llanelli (oc), Llansawel (c)
Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ac o’r clybiau presennol, Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb arall sydd wedi aros yn y gynghrair yn ddi-dor ers tymor cynta’r Bala yn 2009/10.
Mae Llanelli eisoes yn sicr o syrthio ar ddiwedd y tymor, ond fe gafodd y Cochion reswm prin i ddathlu’r penwythnos diwethaf wrth iddyn nhw sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o dan arweiniad Terry Boyle, a’u triphwynt cyntaf yn y gynghrair ers chwe mis (Ffl 1-2 Lli).
Dim ond dwy gôl sydd wedi ei sgorio yn y dair gornest rhwng y timau’r tymor yma, gyda’r Bala’n cadw llechen lân ym mhob un o’r dair gêm (Lli 0-1 Bala, Bala 1-0 Lli, Bala 0-0 Lli).
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌➖❌❌✅ Y Bala: ❌➖➖✅❌ Llansawel (8fed) v Met Caerdydd (9fed) | Dydd Gwener – 14:30
Mae Met Caerdydd wedi ennill dwy gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers mis Hydref gan sicrhau eu lle yn y Cymru Premier JD am dymor arall.
Ers curo’r Seintiau Newydd ddwywaith ym mis Tachwedd, dyw Met Caerdydd m’ond wedi curo’r ddau dîm isaf yn y tabl (Y Bala a Llanelli).
Er hynny, mae’r myfyrwyr yn dal yn y ras i gyrraedd y 7fed safle, ond mae hynny’n edrych yn anhebygol gyda dim ond dwy gêm ar ôl i’w chwarae
Gemau olaf:
Llansawel: Met Caerdydd (c), Y Bala (oc)
Met Caerdydd: Llansawel (oc), Y Fflint (c)
Bydd rhaid i Lansawel ymateb yn sydyn wedi’r siom o golli yn Hwlffordd y penwythnos diwethaf, gyda’r Cochion yn llithro o’r 7fed i’r 8fed safle.
Dyw tîm Andy Dyer heb golli’n erbyn Met Caerdydd y tymor hwn (ennill 1, cyfartal 2), a bydd Llansawel yn awyddus i sicrhau buddugoliaeth yn eu gêm gartref olaf y tymor hwn.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏✅✅✅➖❌ Met Caerdydd: ➖❌❌✅✅
Y Fflint (10fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Gwener – 14:30
Mae’n gaddo i fod yn gêm gyffrous ar Gae y Castell gyda cymaint yn y fantol i’r ddau dîm.
Byddai buddugoliaeth i’r Fflint yn ddigon i sicrhau eu lle’n y gynghrair am dymor arall, gan yrru’r Bala lawr i’r ail haen.
Bydd Hwlffordd, ar y llaw arall, yn benderfynol o ddal eu gafael ar y 7fed safle, a pe bae canlyniadau yn mynd o’u plaid yna fe allai’r Adar Gleision sicrhau eu lle’n y gemau ail gyfle ddydd Gwener
Gemau olaf:
Y Fflint: Hwlffordd (c), Met Caerdydd (oc) Hwlffordd: Y Fflint (oc), Llanelli (c)
Mae Hwlffordd wedi cadw wyth llechen lân yn eu 11 gêm ddiwethaf, a bydd tîm Tony Pennock yn anelu i ennill y gemau ail gyfle am yr ail dymor yn olynol.
Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf, ac fe ddaeth y fuddugoliaeth honno oddi cartref yn erbyn Hwlffordd.
Mae’r record benben wedi bod yn hafal rhwng y timau’r tymor hwn gyda Hwlffordd yn ennill o 3-1 ym mis Hydref, gêm gyfartal o 2-2 ym mis Rhagfyr, a’r Fflint yn ennill o 3-1 ym mis Mawrth.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ➖✅➖➖❌ Hwlffordd: ✅❌✅❌✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.
