Cymru Premier JD: Caernarfon yn teithio i'r Seintiau Newydd
Wedi pum buddugoliaeth yn olynol mae’r Seintiau Newydd wedi torri 12 pwynt yn glir ar frig y Cymru Premier JD, ac mae cewri Croesoswallt yn agosáu at eu pumed pencampwriaeth yn olynol.
Yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop, mae Cei Connah 10 pwynt uwchben Pen-y-bont ar ôl mynd ar rediad rhyfeddol o 17 gêm gynghrair heb golli.
Lawr yn y Chwech Isaf, ac ar ôl ennill tair gêm yn olynol mae Hwlffordd wedi torri driphwynt yn glir yn y frwydr i orffen yn 7fed a chyrraedd y gemau ail gyfle.
Pe bae Hwlffordd yn curo Llanelli nos Wener, yna byddai’r Cochion yn sicr o orffen yn y ddau safle isaf, ac felly yn cadarnhau eu cwymp yn ôl i’r ail haen.
Y Chwech Uchaf
Y Seintiau Newydd (1af) v Caernarfon (4ydd) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl curo Bae Colwyn o 2-0 nos Wener mae’r Seintiau bellach wedi ennill wyth o’u naw gêm ddiwethaf, a gyda rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG i ddod ar ddiwedd y mis, bydd cewri Croesoswallt yn anelu i gwblhau dwbl domestig am y pumed tymor o’r bron.
Sgoriodd Jordan Williams ei 23ain gôl gynghrair i’r Seintiau yn y fuddugoliaeth yn erbyn Bae Colwyn y penwythnos diwethaf, ac mae’r ymosodwr 33 mlwydd oed yn anelu i dorri’r record am y nifer fwyaf o goliau yng nghyfnod y fformat 12-tîm (Chris Venables – 28 gôl yn 2014/15).
Dyw pethau ddim yn mynd gystal i Gaernarfon, sydd ond wedi ennill un o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 6, colli 3).
Roedd Richard Davies yn feirniadol o berfformiad ei garfan yn dilyn y golled o 2-0 yn erbyn Y Barri brynhawn Sadwrn, a bydd angen codi’r hwyliau yn yr ystafell newid cyn y gêm enfawr yn erbyn Y Rhyl 1879 yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ymhen pythefnos.
Mae carfan Caernarfon yn llawn o gyn-chwaraewyr y Seintiau, sy’n cynnwys tri chwaraewr sydd ar fenthyg o Neuadd y Parc eleni, ac felly fydd yn anghymwys i chwarae nos Wener (Sion Bradley, Josh Lock, Zack Clarke).
Ond bydd nifer o gyn-Seintiau eraill ar gael fydd yn awyddus i adael eu marc ar y gêm, fel Connor Roberts, Adrian Cieslewicz, Daniel Gosset a Brad Young.
Bydd hi’n dipyn o dasg i’r Cofis gan fod y Seintiau wedi ennill 17 o’u 18 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, yn cynnwys tair buddugoliaeth yn rhan gynta’r tymor.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Caernarfon: ͏✅➖➖➖❌
Y Chwech Isaf
Llanelli (12fed) v Hwlffordd (7fed) | Nos Wener – 19:45
Nos Wener diwethaf fe lwyddodd Llanelli i sicrhau eu pwynt cyntaf ers mis Tachwedd gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Met Caerdydd.
Ond er hynny, mae’n ymddangos fel bod y frwydr ar fin dod i ben i’r Cochion, gan y byddai colled nos Wener yma yn cadarnhau eu bod yn syrthio yn ôl i’r ail haen.
Ers newid i’r fformat 12-tîm yn 2010, dim ond unwaith o’r blaen y mae tîm wedi syrthio o’r Cymru Premier JD mor gynnar a mis Chwefror, ac Airbus UK oedd rheiny yn nhymor 2022/23 wedi i’r clwb dderbyn chwe phwynt o gosb.
Ar ôl colli dim ond un o’u wyth gêm ddiwethaf, mae Hwlffordd wedi torri triphwynt yn glir yn y 7fed safle (ennill 5, cyfartal 2).
Mae’r Adar Gleision wedi cadw pum llechen lân yn eu chwe gêm ddiwethaf wrth i dîm Tony Pennock lygadu eu lle yn y gemau ail gyfle.
Dyw Llanelli m’ond wedi ennill pedair gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn, ac mae dwy o’r buddugoliaethau rheiny wedi dod yn erbyn Hwlffordd – y gyntaf yn y gynghrair ym mis Medi (1-0), a’r ail yng Nghwpan Cymru ym mis Hydref (3-0), sef eu buddugoliaeth ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌❌❌❌➖ Hwlffordd: ➖❌✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol sgorio