Cymru Premier: Bae Colwyn yn croesawu Hwlffordd
Y Seintiau Newydd sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier wedi’r 10 gêm agoriadol, ac mae’r pencampwyr bedwar pwynt yn glir o Ben-y-bont, yr unig ddau glwb sydd heb golli gêm hyd yma.
Mae gan Y Barri a Chei Connah record hafal yn y 4ydd a’r 5ed safle, ac felly mi fydd hi’n gêm ddiddorol rhwng y clybiau rheiny brynhawn Sadwrn.
Pwynt yn unig sy’n gwahanu’r newydd-ddyfodiaid, Cambrian a Llandudno yng nghanol y tabl cyn i’r ddau gyfarfod am y tro cyntaf erioed y penwythnos yma.
Ac ar waelod y tabl, mae yna bedwar tîm sydd heb ennill dim un o’u 10 gêm gyntaf, a bydd dau o’r timau rheiny yn mynd benben ar Gae y Castell wrth i’r Fflint groesawu Rhydaman.
Bydd y gêm honno yn un ddifyr am resymau pellach gan y bydd newid ar yr ystlys i’r tîm cartref wedi i Lee Fowler golli ei swydd fel rheolwr Y Fflint ar ddechrau’r wythnos.
Dydd Sadwrn, 26 Medi
Bae Colwyn (6ed) v Hwlffordd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Bae Colwyn wedi codi i’r Chwech Uchaf ar ôl sicrhau tair buddugoliaeth o’r bron am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair, gyda’r Gwylanod yn sgorio pum gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf (Treffynnon 0-5 Bae Colwyn, Bae Colwyn 5-2 Y Barri).
Mae tîm Michael Wilde wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf, ac mae eu wyth gêm nesaf yn erbyn clybiau sy’n îs na nhw yn y tabl felly mae’n gyfle i Fae Colwyn gryfhau eu safle.
Bydd Hwlffordd yn falch o fod wedi troi’r gornel ar ôl dechrau araf i’r tymor, a bellach mae’r Adar Gleision ar rediad o bedair gêm heb golli (ennill 3, cyfartal 1).
Dyw Bae Colwyn m’ond wedi ennill un o’u chwe gornest ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, ond dyw tîm Tony Pennock heb sgorio ar eu dau hymweliad diwethaf â Ffordd Llanelian (Bae 0-0 Hwl, Bae 3-0 Hwl).
Record cynghrair diweddar
Bae Colwyn:✅❌✅✅✅ ͏
Hwlffordd: ❌✅ ➖✅✅ ͏
Cambrian (9fed) v Llandudno (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n grasfa go iawn i Cambrian nos Wener wrth iddyn nhw golli o 9-1 yn erbyn Caernarfon ar ôl gweld dau gerdyn coch yn ystod y gêm.
Dyma’r tro cyntaf i glwb ildio naw o goliau mewn gêm gynghrair ers Rhagfyr 2022, pan enillodd Y Seintiau Newydd o 11-0 yn erbyn Aberystwyth.
Er y golled, dyw Cambrian m’ond un pwynt y tu ôl i Llandudno, a gollodd yn greulon o hwyr yn erbyn Y Seintiau Newydd brynhawn Sadwrn (YSN 2-1 Lldo).
Tra bo Trefelin, Rhydaman a Treffynnon yn stryffaglu ar waelod y gynghrair, mae’n deg dweud bod y newydd-ddyfodiaid eraill, sef Cambrian, Llandudno ac Airbus wedi ymdopi’n effeithiol gyda heriau’r gynghrair hyd yma.
Dim ond unwaith mae’r clybiau wedi cyfarfod yn y gorffennol, ac roedd hi’n ornest gyffrous yn yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru ym mis Tachwedd 2024 pan enillodd Cambrian o 3-2 er i Landudno fynd ar y blaen ddwywaith yn ystod y gêm.
Record cynghrair diweddar:
Cambrian: ➖➖✅✅ ❌ ͏
Llandudno:❌✅❌➖❌ ͏
Met Caerdydd (10fed) v Caernarfon (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl dechreuad campus i’r tymor, mae Met Caerdydd wedi arafu ychydig gan syrthio i’r 10fed safle wedi cyfnod o dair gêm heb fuddugoliaeth.
Roedd hi’n noson hanesyddol i Gaernarfon nos Wener wrth iddyn nhw sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn yr uwch gynghrair drwy guro Cambrian o 9-1 gyda naw chwaraewr gwahanol ar y sgorfwrdd i’r Cofis.
Hon oedd y fuddugoliaeth fwyaf yn y Cymru Premier ers i’r Seintiau Newydd ennill o 8-0 yn erbyn Met Caerdydd yn Ionawr 2024, a’r tro cyntaf i dîm sgorio naw o goliau ers i’r Seintiau daro 11 yn erbyn Aberystwyth yn Rhagfyr 2022.
Un peth sy’n gyffredin rhwng y canlyniadau syfrdanol uchod yw bod yr asgellwr Adrian Cieslewicz wedi sgorio ym mhob un o’r dair gêm.
Roedd hi’n amhosib gwahanu’r clybiau yma’r tymor diwethaf gyda’r timau’n cyfarfod deirgwaith a’r ddau glwb yn ennill unwaith a chael un gêm gyfartal.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ✅✅➖➖❌
Caernarfon: ❌✅✅➖✅ ͏
Pen-y-bont (2il) v Airbus UK Brychdyn (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Pen-y-bont wedi dringo i’r ail safle ar ôl sicrhau eu pedwaredd buddugoliaeth yn olynol, gan gadw eu record di-guro yn fyw.
Roedd yna ryddhad mawr i ymosodwr Pen-y-bont, Ethan Cann nos Wener wrth i’r blaenwr sgorio ei gôl gyntaf i’r Gleision yn ei 23ain ymddangosiad i’r clwb.
Bydd Airbus yn llawn hyder ar ôl taro pedair yn erbyn Y Fflint nos Wener, gyda George Peers yn hawlio hatric i fechgyn Brychdyn.
Rhagfyr 2013 oedd y tro diwethaf i Airbus guro Pen-y-bont, ac ers hynny mae tîm Rhys Griffiths wedi ennill pum gêm yn olynol yn erbyn hogiau’r Maes Awyr.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ➖✅✅✅✅ ͏ ͏
Airbus UK: ✅✅❌❌✅ ͏
Trefelin (13eg) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Wedi naw buddugoliaeth yn olynol mae’r Seintiau Newydd ar frig y tabl, ac yn parhau yn ddi-guro y tymor hwn (ennill 9, cyfartal 1).
Mae tîm Craig Harrison wedi llwyddo i gadw saith llechen lân mewn 10 gêm gynghrair gan ildio dim ond pedair gôl hyd yma.
Ar ôl ennill pencampwriaeth y de y tymor diwethaf, mae canlyniadau Trefelin wedi bod yn siomedig eleni ac mae tîm Andy Hill yn dal i aros em eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair (cyfartal 3, colli 7).
Er eu dechreuad difrifol, ar hyn o bryd mae Trefelin yn glir o safleoedd y cwymp, ac hynny er iddyn nhw sgorio dim ond pedair gôl mewn 10 gêm.
Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb a bydd y pencampwyr yn anelu i dorri’n glir ar y brig a’i gwneud hi’n 10 buddugoliaeth o’r bron.
Record cynghrair diweddar:
Trefelin: ❌➖❌❌➖ ͏
Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅ ✅✅
Treffynnon (16eg) v Llansawel (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Treffynnon wedi cael dechrau trychinebus i’r tymor – yn sicrhau dim ond un pwynt o’r 30 posib, ond yn ffodus iddyn nhw, mae yna bedwar clwb arall sy’n dal heb hawlio triphwynt hyd yma.
Er y dechrau araf, mae’n bosib y byddai buddugoliaeth nos Wener yn codi Treffynnon o safleoedd y cwymp, a dyna fydd y targed i dîm John Haseldin.
Dyw Llansawel yn sicr heb fod ar eu gorau’n ddiweddar chwaith gan gipio dim ond un pwynt o’u chwe gêm ddiwethaf.
Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb, a bydd y ddau reolwr yn ysu i sicrhau triphwynt hollbwysig yn y Chwech Isaf.
Record cynghrair diweddar:
Treffynnon: ❌➖❌❌❌ ͏ ͏
Llansawel:❌❌❌❌➖ ͏ ͏
Y Barri (5ed) v Cei Connah (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl ennill eu chwe gêm agoriadol, mae’r Barri wedi baglu gan ennill dim ond unwaith mewn pedair gêm ers hynny.
Mae’r Barri, Cei Connah a Caernarfon yn hafal ar bwyntiau ar ôl ennill saith, colli dwy a chael un gêm gyfartal, ac yn dri clwb fydd yn benderfynol o ddal gafael ar eu lle yn y Chwech Uchaf cyn yr hollt.
Y Seintiau Newydd (0.4 gôl y gêm) yw’r unig dîm i ildio llai o goliau na Cei Connah (0.7 gôl y gêm), a dyw’r Nomadiaid heb ildio yn eu dwy gêm ddiwethaf.
Ond dyw Cei Connah m’ond wedi ennill dwy o’u wyth gornest ddiwethaf yn erbyn Y Barri (cyfartal 2, colli 4), gyda’r Dreigiau yn cael y gorau o bethau dros y tymhorau diweddar.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅❌✅➖❌ ͏
Cei Connah: ✅➖❌✅✅ ͏ ͏
Y Fflint (15fed) v Rhydaman (14eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Torrodd y newyddion ar ddechrau’r wythnos bod Lee Fowler wedi colli ei swydd fel rheolwr Y Fflint ar ôl pedair blynedd wrth y llyw.
Mae’r Sidanwyr yn eistedd yn safleoedd y cwymp ar ôl sicrhau dim ond dau bwynt o’u 10 gêm agoriadol, ac mae her anodd yn wynebu’r unigolyn fydd yn camu i’r bwlch i geisio arwain y tîm o’r dyfnderoedd.
Ac mi fydd hi’n gêm anferthol i’r rheolwr newydd brynhawn Sadwrn wrth i’r Fflint groesawu Rhydaman, clwb arall sydd mewn perygl ar waelod y tabl ar ôl methu ag ennill dim un o’u 10 gêm agoriadol.
Dyma’r tro cyntaf i’r clybiau gyfarfod ac mae’n gyfle euraidd i’r timau geisio hawlio eu buddugoliaeth gyntaf y tymor yma.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌❌➖❌❌ ͏
Rhydaman: ❌❌❌➖❌ ͏