Cymru yn curo’r Weriniaeth Tsiec o 3-1 i ennill eu grŵp
Mae Cymru wedi curo’r Weriniaeth Tsiec o 3-1 yng Nghaerdydd i orffen ar frig eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod tîm Rhian Wilkinson wedi sicrhau llwybr mwy ffafriol i’r gemau ail-gyfle, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2027 ym Mrasil.
Bydd Cymru yn chwarae’r ail gymal gartref yn rownd gyntaf y gemau ail-gyfle, ac yn wynebu tîm a orffennodd yn ail neu’n drydydd yn un o grwpiau Cynghrair B.
Bydd y tynnu o'r het yn digwydd ar 18 Mehefin, gyda’r rownd gyntaf o’r gemau ail-gyfle rhwng 7 a 13 Hydref a’r ail rownd rhwng 26 Tachwedd a 5 Rhagfyr.
Mae ennill y grŵp hefyd yn golygu y bydd Cymru yn cael eu dyrchafu i’r gynghrair uchaf ar gyfer y gystadleuaeth nesaf.
Roedd Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle cyn gêm nos Fawrth, ond roedd angen buddugoliaeth arnyn nhw er mwyn cipio’r safle cyntaf yng Ngrŵp B1.
Fe gafodd Cymru ddechrau anodd wrth i Michaela Khýrová roi’r ymwelwyr ar y blaen wedi pum munud yn unig.
Ond ymatebodd y crysau cochion yn gyflym.
Dim ond pedwar munud yn ddiweddarach, fe darodd Lily Woodham ergyd bwerus i gornel y rhwyd i ddod â Chymru’n gyfartal ar ei 50fed ymddangosiad dros ei gwlad.
Roedd yr hanner cyntaf yn un cystadleuol, gyda’r ddwy ochr yn creu cyfleoedd.
Roedd y Weriniaeth Tsiec yn agos at ailafael yn y fantais ychydig cyn yr egwyl, ond fe darodd ergyd isel Katerina Kotrcova y post.
Fe aeth Cymru ar y blaen bedwar munud wedi’r egwyl, wrth i Gemma Evans benio cic rydd Ceri Holland i’r rhwyd.
Fe roddodd Mared Griffiths fwy o sicrwydd i’r crysau cochion wedi 72 munud, gan sgorio trydedd gôl Cymru wedi gwaith da gan Holland.
Fe darodd Sabina Strizova y trawst i’r ymwelwyr yn ystod amser ychwanegol, ond llwyddodd Cymru i ddal eu gafael ar y fantais.
Roedd 5,607 o gefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd i weld Cymru yn ennill eu grŵp.