Cyhuddo dyn 48 oed o ymosod ar weithiwr siop benywaidd yn y Bermo

Bermo

Mae dyn 48 oed o Sheffield wedi ei gyhuddo o ymosod ar weithiwr benywaidd mewn siop yn y Bermo yng Ngwynedd.

Cafodd swyddogion Heddlu’r Gogledd eu galw i siop yn y dref toc wedi 13.30 ddydd Mercher, yn dilyn adroddiad am ymosodiad honedig gan ddyn ar aelod o staff.

Ar ôl derbyn disgrifiad manwl, fe lwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i Matthew Harris a’i arestio.

Mae’r dyn 48 oed o Sheffield bellach wedi ei gyhuddo o ymosodiad trwy guro, yn ogystal â chyhuddiad o aflonyddu ar ail aelod o staff benywaidd.

Ni chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa nes iddo ymddangos yn y llys ddydd Gwener.

Dywedodd Iwan Jones, Arolygydd Ardal ar gyfer De Gwynedd, ar ran Heddlu Gogledd Cymru:

"Rydym yn cymryd adroddiadau o'r math yma o ddifrif, ac fe fyddwn yn mynd ar ôl y rhai sy'n gyfrifol yn ddi-baid, fel rhan o'n hymdrechion parhaus i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched.

“Hoffwn ddiolch i'r dioddefwyr ac i bawb a gefnogodd yr ymchwiliad, gan ein galluogi i gyflwyno achos i'r Gwasanaeth Erlyn y Goron."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.