‘Cyflwr gwael’: Gwaith brys ar blasty sydd â chysylltiad â hanes Owain Glyndŵr
Mae gwaith brys wedi cael ei wneud ar blasty sydd mewn “cyflwr eithaf gwael” yn Eryri, ar ystâd hanesyddol sydd â chysylltiad enwog â hanes Owain Glyndŵr.
Mae Plas Nannau yng nghysgod Cadair Idris yn adeilad rhestredig Gradd II* a gafodd ei gwblhau yn 1796.
Wedi’i leoli yn Llanfachreth, ger Dolgellau, mae’n un o dai mawr y gogledd.
Roedd y safle yng nghanol un o ystadau mwyaf Meirionnydd, ac mae gwreiddiau’r ystâd yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif.
Yn 2019, fe wnaeth lladron dynnu tunelli o blwm oddi ar do Plas Nannau, gan gyflymu ei ddirywiad.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dweud: “Un o’r straeon enwocaf yn ei hanes hir oedd yr ymgais honedig gan Hywel Sele o Nannau i lofruddio ei berthynas Owain Glyndŵr.
“Fe wnaeth Hywel dynnu ei fwa i saethu carw, ond troi’n gyflym ac anelu at ei gefnder yn lle hynny. Roedd Owain yn gwisgo llurig o dan ei grys ac fe oroesodd.
“Yn ôl yr hanes, fe wnaeth wedyn ladd Hywel Sele a rhoi ei gorff mewn derwen wag.
“Daeth y dderwen hon i gael ei hadnabod fel Ceubren yr Ellyll, ac roedd llawer o straeon ysbryd yn cael eu hadrodd am ei phwerau nes iddi gael ei tharo gan fellten yn 1813.”
'Grisiau wedi dymchwel'
Ddydd Mercher, 9 Medi, cafodd aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddiweddariad ar gyflwr yr adeilad yn ystod cyfarfod cynllunio.
Roedd adroddiad gan Jane Jones, Prif Swyddog Cynllunio (Cydymffurfiaeth), yn dweud: "Mae gwaith brys wedi cael ei wneud i atal dŵr rhag mynd i mewn i Nannau. Mae’r gwaith hwn wedi atal rhagor o ddŵr rhag mynd i mewn i’r adeilad, ac mae bellach yn gallu dechrau sychu.
“Mae eitemau symudol hefyd wedi cael eu clirio o Nannau, gydag unrhyw eitemau sy’n ymwneud â Nannau yn cael eu storio mewn cynhwysydd mawr ar y safle."
Wrth rannu lluniau o’r safle gyda’r aelodau, dywedodd: “Pan aethon nhw yno ym mis Ionawr i ddechrau’r gwaith, fe wnaethon nhw ffilmio o amgylch yr adeilad gyda drôn.
“Roedd hynny’n dangos cyflwr yr adeilad cyn iddyn nhw ddechrau’r gwaith, ac roedd mewn cyflwr eithaf gwael.
“Y tu mewn, mae’r prif risiau sy’n mynd i fyny i’r ail lawr wedi dymchwel.
“Bellach, yr unig ffordd i mewn i’r adeilad yw drwy’r drws ffrynt, ond does dim modd cyrraedd yr ail lawr. Felly mae sgaffaldiau wedi cael eu codi o amgylch yr adeilad er mwyn mynd i mewn drwy ffenestr ar y llawr cyntaf.”
'Addawol'
Dywedodd fod y to bellach wedi cael ei wneud yn ddiddos (waterproof), bod llechi wedi cael eu tynnu a’u storio i’w defnyddio yn y dyfodol, a bod bwriad i osod ffelt newydd.
“Mae’r dŵr bellach wedi stopio dod i mewn yn llwyr. Pan rydyn ni wedi mynd i mewn i’r adeilad dros yr haf, mae’n gwbl amlwg ei fod eisoes yn dechrau sychu, a dyna’n amlwg oedd angen i ni ei wneud,” meddai.
“Mae ymholiad cyn cyflwyno cais bellach wedi dod i law, ac mae trafodaethau gyda’r asiantau’n parhau. Gobeithio y bydd rhagor o gynnydd o hyn ymlaen.”
Dywedodd y Cynghorydd Delyth Russell fod “cymaint o siarad am hyn yn y gymuned”, gan ychwanegu ei bod yn “dda bod hyn yn cael ei drafod yn agored nawr”.
Gofynnodd cynghorydd ward Brithdir a Llanfachreth a oedd newid perchnogaeth wedi “newid unrhyw beth”, ac a oedd yr awdurdod yn “disgwyl cais newydd gan y perchnogion newydd”.
Gofynnodd hefyd faint o arian roedd yr awdurdod wedi’i wario.
Atebodd Ms Jones: “Hyd yma, mae popeth yn edrych yn eithaf addawol. Rydyn ni’n cael y trafodaethau priodol, ac maen nhw’n ymddangos yn barod i gydweithredu o ran ceisiadau, ac yn y blaen.
“Hyd yma, mae’r cyfathrebu wedi bod yn dda, yn well nag mewn blynyddoedd eraill. Felly bydd rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd nesaf o ran ymholiadau pellach cyn cyflwyno cais, neu efallai y bydd cais yn cael ei gyflwyno.
“Gobeithio y bydd y perchnogion newydd yn cyflwyno cais newydd.”
Ychwanegodd: “Hyd yma, dydyn ni ddim wedi gwario unrhyw arian. Y perchennog sydd wedi talu am y gwaith brys.”
Llun gan Ian King dan drwydded Comin Creadigol BY-SA 4.0.
