Criw o gyn-weithwyr Tata Steel yn ennill £1m ar y loteri
Mae 15 o gyn-weithwyr gwaith dur Tata ym Mhort Talbot wedi ennill £1m ar loteri'r Euromillions.
Cafodd y grŵp ei ffurfio yn wreiddiol gan aelodau o dîm cyllid y gwaith dur.
Ond ar ôl i lawer o’r aelodau symud i swyddi newydd, daeth y syndicet yn ffordd o gadw mewn cysylltiad ar hyd y blynyddoedd.
Nawr, mae’r wobr anhygoel o £1m wedi rhoi rheswm i’r cyn-gydweithwyr ailuno, dathlu a chofio eu hamser gyda’i gilydd.
Cadwodd arweinydd y syndicet, Paul Davy, 61 oed, y traddodiad o dalu am docyn ar ran y gweddill yn fyw am saith mlynedd, gan gadw pawb mewn cysylltiad trwy e-bost.
Roedd yn ei drin fel “cyfle i roi i elusen - gyda’r cyfle i ennill fel bonws.”
Wrth gofio'r eiliad y sylweddolodd eu bod wedi ennill, dywedodd Paul: “Roeddwn i’n gwirio’r raffl pan ymddangosodd neges ar ap y Loteri Genedlaethol. Gwelais y cod Millionaire Maker buddugol ac roeddwn i mewn sioc llwyr.”
Mae aelodau eraill o'r criw sy'n dathlu'r fuddugoliaeth yn cynnwys Gill Furlong, Christine Davies, Sally Wise, Julie Lambert, Allan Evans, Ian Howells a Raja Prasad.
Mae rhai o'r pethau y byddan nhw'n gwario'r arian arno yn cynnwys cegin newydd, car newydd a gwyliau teuluol yn ogystal â helpu teulu a ffrindiau.
Er bod llond llaw o aelodau wedi cwrdd o bryd i'w gilydd am "gêm o biliards a chwrw", nid yw'r grŵp cyfan wedi dod at ei gilydd ers blynyddoedd.
Dywedodd Paul: "Mae'r fuddugoliaeth hon wedi rhoi'r esgus perffaith i ni ddathlu gyda'n gilydd yn iawn."