Clybiau motobeics yn gwireddu breuddwyd claf mewn hosbis diwedd oes

MC StK

Cafodd claf mewn hosbis diwedd oes yn y gogledd ymweliad arbennig ddydd Iau, wrth i aelodau o glybiau motobeics alw heibio.

Dywedodd Hosbis Sant Cyndeyrn (St Kentigern) yn Llanelwy fod "rhywbeth arbennig iawn" wedi digwydd yno, "ac mae’n foment na fyddwn ni byth yn ei hanghofio!"

Fe lwyddodd trefnydd y digwyddiad, Chris, i gasglu aelodau o wahanol glybiau motobeic at ei gilydd, gan wireddu dymuniad y claf, a hynny mewn cwta 24 awr.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd staff Hosbis Sant Cyndeyrn: "Roedd gerddi’r hosbis yn llawn sŵn beiciau modur wrth iddynt yrru’n syth at ddrws ein claf, gan ddod â gwên, cyffro, a moment y bydd ein claf a’r teulu yn ei thrysori am byth." 

Dywedodd Matron y sefydliad, Victoria Grimster: “Hoffem ddiolch i Chris, Black Pistons MC Cymru, Outlaws MC, Kingsmen MCC, Whistlestop MC a’r holl frodyr am ein helpu i wireddu dymuniad un o’n cleifion heddiw. 

"Mae ein cymuned yn golygu popeth i ni yn Hosbis Sant Cyndeyrn.”

Ychwanegodd y neges fod y digwyddiad wedi adlewyrchu "gwir ystyr cymuned":

"Pobl yn dod at ei gilydd, yn rhoi o’u hamser, ac yn creu atgofion a fydd yn para am oes.

"I bawb a wnaeth adael sylw, rhannu, neu anfon negeseuon o gefnogaeth - diolch. Roeddech chi’n rhan o wireddu’r dymuniad arbennig hwn, ac ni fyddem wedi gallu ei wneud hebddoch chi.

"Oddi wrthym ni i gyd yn Hosbis Sant Cyndeyrn, diolch am greu diwrnod mor arbennig i berson arbennig iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.