Clwb Rygbi RGC yn cofio chwaraewr ifanc yn eu gêm gyntaf ers ei farwolaeth

Cofio Jack Davies

Cafodd blodau eu gosod cyn gêm Clwb Rygbi Gogledd Cymru ddydd Sadwrn er cof am chwaraewr ifanc a fu farw.

Bu farw Jack Cameron Wynne Davies, 24 oed, a oedd yn chwarae i Gaernarfon a Rygbi Gogledd Cymru, yn gynharach y mis hwn.

Roedd y dyn ifanc o Lanfairpwll ar Ynys Môn yn chwaraewr rygbi talentog ac yn athro yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Ddydd Sadwrn fe chwaraeodd RGC a Chaernarfon eu gemau cyntaf ers ei farwolaeth.

Cafodd blodau a chrys eu gosod wrth ochr y cae cyn gêm RGC er mwyn cofio amdano.

Image
Cafodd crys a blodau eu gosod wrth ochr y cae cyn y gêm. Llun: RGC
Cafodd crys a blodau eu gosod wrth ochr y cae cyn y gêm. Llun: RGC

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd RGC: "Roeddem wedi dod at ein gilydd i gofio Jack."

Enillodd RGC eu gêm yn erbyn Pont-y-pŵl 49-19, tra enillodd tîm cyntaf Caernarfon 50-17 yn erbyn Pwllheli.

Enillodd ail dîm Caernarfon 43-5 yn erbyn Bae Colwyn Athletic.

Image
Jack Cameron Wynne Davies 2
Llun: Clwb Rygbi Caernarfon

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Clwb Rygbi Caernarfon y byddai'n ymddeol crys rhif pump am weddill y tymor er cof am Jack Davies.

Mewn cyhoeddiad nos Iau, dywedodd Clwb Rygbi Caernarfon: "Fel teyrnged i Jack, byddwn yn ymddeol crys rhif pump y tîm cyntaf ar gyfer gweddill y tymor.

"Roedd yn bleser gwylio Jack yn chwarae yn y rhif, a teimlwn fel tîm bod y dewis yma yn destament i’w gof."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.