'Cit rhy fawr a diffyg hyfforddwyr': Cyfnod cynnar Gareth Bale yng ngharfan Cymru
"Roedd e'n gyfnod anodd."
Dyna sut mae Gareth Bale yn disgrifio ei flynyddoedd cynnar yn rhan o garfan Cymru.
Cafodd ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf yn 2006, gyda Chymru yn safle 73 ar restr detholion y byd ar y pryd.
Roedd Bale a sawl chwaraewr ifanc fel Wayne Hennessey a Chris Gunter wedi cael eu dewis yn y garfan er mwyn ceisio sefydlu tîm cenedlaethol llawn chwaraewyr profiadol erbyn iddynt gyrraedd eu 20au cynnar.
John Toshack oedd rheolwr Cymru yn y cyfnod hwn, ac er ei fod wedi gosod y sail ar gyfer dyfodol pêl-droed Cymru, roedd pethau yn anodd.
“Roedd e’n gyfnod anodd pan nes i ymuno,” meddai Gareth Bale wrth bodlediad Stick to Football.
"Cafodd pethau eu rhedeg mewn ffordd eithaf amatur. Byddem yn bwyta brechdan bacwn tra’n cerdded i’r cae ymarfer.
“Doedd dim hyfforddwr ffitrwydd gyda ni, roedd Dean Saunders [is-hyfforddwr Toshack ar y pryd] yn cynnal y sesiwn twymo fyny.
“Roedd pawb yn gwisgo cit oedd yr un faint. Roedd y crys-t cyntaf ges i yn 16 oed yn ymestyn holl ffordd lawr fy mraich, jyst pethau bach fel ’na, un cit i ffitio pawb.
“Doedd dim llawer o strwythur ac roedd yn amlwg pan nad oeddem yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd neu’r EURO's."
'Diwylliant'
Fe wnaeth John Toshack adael y swydd yn 2010, ac wedi cyfnod byr Brian Flynn wrth y llyw, fe gafodd Gary Speed ei benodi'n rheolwr Cymru ym mis Rhagfyr 2010.
Roedd y penodiad hwnnw wedi "trawsnewid" pêl-droed cenedlaethol Cymru, medd Gareth Bale.
Fe wnaeth Speed foderneiddio cyfleusterau Cymru, a wnaeth arwain yn y pen draw at "lwyddiant" Cymru yn EURO 2016, a chymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, yn 2022.
“Daeth Gary Speed i mewn, newid y diwylliant i fod fel un tebyg i glwb pêl-droed, cyflwyno gwyddoniaeth chwaraeon (sport science), gwesty newydd. Roedd popeth yn cael ei redeg yn iawn.
“Fe wnaeth hynny osod sail ac roedd pethau wedi adeiladu o hynny.
“Wedyn roeddem yn edrych ymlaen at fynd i ffwrdd gyda Chymru.
“Er bod fi wrth fy modd yn cynrychioli Cymru - a does dim teimlad gwell - roeddech chi’n mynd o safon y cyfleusterau, a bob dim yn cael eu darparu gyda Southampton neu Tottenham, ac wedyn gyda Chymru doedd e ddim wir yna.
“Roedd angen i ni dyfu a gwella ac roedd hynny wedi digwydd - ac fe arweiniodd hynny at lwyddiant.
“Roedd Gary Speed wedi cael yr arian i roi sail i ni a rhoi rhywbeth tebyg i’r hyn roedd gennym gyda’n clybiau."