Ceredigion: Cyngor yn prynu ‘ased strategol’ anhysbys
Mae cynghorwyr Ceredigion wedi cefnogi prynu "ased strategol" newydd ar gyfer y sir.
Daw hyn yn dilyn pryniant fferm gwerth £1.85 miliwn y llynedd sy’n cael ei thrawsnewid yn goleg amaethyddol a garddwriaethol.
Mewn adroddiad yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion, gofynnwyd i aelodau gymeradwyo "caffaeliad ased strategol newydd ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion, sy’n cyd-fynd â Nodau Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Ceredigion".
Dywedodd adroddiad ar gyfer aelodau: "Os caiff ei gymeradwyo, byddai'r ased yn cael ei brynu drwy gyllid grant sydd eisoes yn cael ei ddal i wella gwasanaethau.
"Gan fod manylion y gwerthiant, gan gynnwys yr ased a’i werth marchnad ar hyn o bryd yn sensitif yn fasnachol, mae manylion yr ased a’r pris gwerthu y cytunwyd arno wedi’u cynnwys mewn adroddiad sydd wedi’i eithrio."
Fe aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud: "Nid yw Asesiad Effaith Integredig llawn wedi’i gwblhau eto ar gyfer prynu’r ased.
"Byddai’r ased yn rhan o gyfle datblygu a gwella gwasanaethau ehangach, y bydd Asesiad Effaith Integredig llawn yn cael ei gynhyrchu a’i ystyried ar ei gyfer."
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wybodaeth yn hysbys i'r cyhoedd am yr "ased" dan sylw.
Ychwanegodd yr adroddiad: "Bydd ased ychwanegol yn cael ei brynu, a allai fod angen gwaith datblygu, a bydd angen cynnal a chadw parhaus arno."
Fe aeth aelodau i sesiwn breifat i drafod y cynnig, cyn dychwelyd yn ddiweddarach i sesiwn gyhoeddus er mwyn awdurdodi'r pryniant.
Cytunodd aelodau hefyd i "dderbyn adroddiad pellach ar ôl cwblhau'r cytundeb cyfreithiol i brynu'r ased" i roi mwy o fanylion i'r cyhoedd.
