Cam ymlaen i gynllun trac beicio gwerth £4 miliwn yng Nghaerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cymryd cam ymlaen gyda chynlluniau i adeiladu trac beicio gwerth tua £4.5 miliwn yn y brifddinas fel rhan o etifeddiaeth ras Tour de France 2027.
Mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo achos busnes amlinellol ar gyfer y cynllun, a fyddai'n gweld trac beicio 1.5km o hyd yn cael ei adeiladu ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor yn Lecwydd.
Daw'r cynlluniau wrth i Gaerdydd baratoi i groesawu diwedd trydydd cymal Tour de France ar 4 Gorffennaf 2027, gyda'r beicwyr yn rasio o'r Trallwng ym Mhowys i Gastell Caerdydd.
Yn ôl cyhoeddiad gwreiddiol y Cyngor, roedd disgwyl i'r trac gostio tua £4 miliwn, ond mae hysbysiad caffael a gyhoeddwyd ar 15 Hydref yn rhoi'r gost amcangyfrifedig ar tua £4.5 miliwn.
Nid yw'r Cyngor yn bwriadu talu am adeiladu'r trac, gyda'r cynllun yn dibynnu ar gyllid allanol drwy raglen etifeddiaeth Tour de France a grantiau eraill.
Mae rhywfaint o'r cyllid eisoes wedi'i sicrhau, ond bydd angen sicrhau gweddill yr arian a chaniatâd cynllunio cyn y gallai'r gwaith fynd yn ei flaen.
Bydd angen i'r Cyngor hefyd gymeradwyo achos busnes llawn yn y dyfodol.
Pe bai'r cynllun yn cael ei wireddu, hwn fyddai'r trac beicio ffordd gaeedig drefol cyntaf yn ne Cymru.
Y gobaith yw y byddai'r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio gan glybiau beicio, ysgolion a grwpiau cymunedol, yn ogystal â phobl sy'n hyfforddi ar gyfer cystadlaethau.
Byddai'r trac hefyd ar gael i redwyr a thriathletwyr.
Mae'r tir yn Lecwydd yn cael ei ystyried oherwydd ei agosrwydd at gyfleusterau chwaraeon ac addysg presennol.
Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet, fe allai'r trac agor erbyn dechrau 2028, pe bai'r cyllid, caniatâd cynllunio a'r trefniadau gweithredu angenrheidiol yn cael eu sicrhau.
Y bwriad yw i bartner allanol adeiladu a rhedeg y cyfleuster, gan weithio gyda'r Cyngor a chyrff chwaraeon cenedlaethol.
Disgrifiodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Chris Weaver, y cynllun fel "prosiect cyffrous iawn".
Meddai'r aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, Jen Burke, fod gan Gaerdydd "etifeddiaeth i'w gwireddu" o groesawu Tour de France.
Roedd arweinydd y grŵp Ceidwadol ar y Cyngor, John Lancaster, hefyd yn croesawu'r posibilrwydd o gael etifeddiaeth barhaol o'r ras.
Ond fe gwestiynodd pam nad oedd trac o'r fath wedi cael ei adeiladu yn y ddinas o'r blaen, pe bai'n syniad mor dda.
Mewn ymateb, esboniodd y Cynghorydd Burke fod cynlluniau'r ddinas yn newid yn barhaus wrth iddi ddatblygu.
