Caerfyrddin: Carchar i ddyn am dynnu lluniau o dan sgertiau merched ifanc
Mae dyn wedi’i garcharu ar ôl pledio’n euog i dynnu lluniau o dan sgertiau merched yn eu harddegau yng Nghaerfyrddin.
Roedd Isa Ayan, 38 oed, wedi pledio’n euog i dri chyfrif o geisio defnyddio cyfarpar o dan ddillad unigolyn arall heb ei ganiatâd.
Roedd pob cyfrif yn ymwneud â thri dioddefwr gwahanol.
Ar 10 Chwefror 2026, cafodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad gan aelod o staff siop Poundland yng Nghaerfyrddin yn dweud eu bod wedi gweld dyn yn ymddwyn yn amheus ac yn pryderu ei fod wedi ceisio tynnu llun o dan sgert merch ysgol.
Yn dilyn ymchwiliad gan dditectifs yng Nghaerfyrddin a Rhydaman, cafodd Ayan ei adnabod drwy luniau CCTV a’i arestio.
Fe wnaeth archwiliadau pellach ddangos bod Ayan wedi tynnu lluniau o ragor o ferched o ardal Caerfyrddin.
Roedd y dioddefwyr rhwng 13 a 14 oed.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe, cafodd Ayan ddedfryd o 18 mis o garchar.
Cafodd hefyd ei ychwanegu at y gofrestr troseddwyr rhyw a gorchymyn atal niwed rhyw am 10 mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Carl Pocock “Mae’r troseddau a gyflawnwyd gan Isa Ayan yn arbennig o bryderus.
"Mae’r tîm ymchwilio yn ddiolchgar i’r aelod staff yn Poundland a wnaeth adrodd eu pryderon cychwynnol i’r heddlu. Fe wnaeth hynny arwain at arestio a chyhuddo Ayan.
“Yn dilyn arestio Ayan, cawsom wybod am raddfa ei droseddu. Siaradom â dioddefwyr a’u teuluoedd, ac nid oeddent i gyd yn ymwybodol fod y troseddau wedi digwydd.
"Rhaid pwysleisio, er gwaethaf diffyg ymwybyddiaeth y dioddefwyr o droseddu Ayan, nid yw’n lleihau’r effaith y mae wedi’i gael arnynt.
“Rydym yn eu canmol am eu dewrder a’u hurddas wrth iddyn nhw gynorthwyo ein hymchwiliad."