Caerdydd: Cau bwyty McDonald's yng nghanol y ddinas dros dro oherwydd 'pla'
Mae bwyty McDonald's yng nghanol Caerdydd wedi cau dros dro wedi i rywun weld “pla” (pest) yno.
Bu rhaid i'r safle gau ar Heol Eglwys Fair yn dilyn "penderfyniad rhagweithiol" yn ôl llefarydd ar ran McDonald's.
Roedd arwyddion ar ffenestri'r bwyty ddydd Mercher yn dweud bod y bwyty ar gau dros dro a bod y cwmni yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
Yn ôl McDonald's, mae cwmni arbenigol "wedi ymchwilio'n fanwl i'r sefyllfa", ac maen nhw'n dweud bod "diogelwch bwyd a hylendid o'r pwys mwyaf i ni".
"Rydym wedi aros ar gau nes bod arbenigwyr yn hyderus bod y mater wedi cael ei ddatrys, ac mae wedi cael ei ddatrys erbyn hyn," medden nhw.
"Mae'r bwyty wedi cael ei lanhau'n drwyadl ac mae'n bwriadu croesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiweddarach yr wythnos hon."
Mae McDonald's Heol Eglwys Fair yn un o ddau fwyty McDonald's yng nghanol y dref, gyda'r llall ar Heol y Frenhines.