Bachgen 16 oed a dyn 80 oed wedi marw mewn damwain awyren yn yr Alban

Drymen (Llun: Jim Barton)
Drymen

Mae bachgen 16 oed a dyn 80 oed wedi marw mewn damwain awyren fechan yn yr Alban.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal i'r gogledd-ddwyrain o bentref Drymen, ger Stirling, tua 16:45 brynhawn Gwener.

Cadarnhaodd Heddlu'r Alban fod y ddau wedi marw yn y fan a'r lle, a bod eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Mae cyfyngiadau dros dro wedi eu cyflwyno ar hedfan yn yr ardal, gan gynnwys defnyddio dronau.

Yn ôl yr heddlu, mae'r cyfyngiadau'n debygol o barhau am beth amser er mwyn caniatáu i'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi rhybuddio ei bod hi'n drosedd hedfan yn yr ardal tra bod y cyfyngiadau mewn grym.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.