Blaenau Ffestiniog: 'Presenoldeb sylweddol' gan yr heddlu wrth arestio person oedd wedi dianc

S4C

Roedd "presenoldeb sylweddol" gan yr heddlu ym Mlaenau Ffestiniog brynhawn dydd Mawrth wrth iddyn nhw arestio person oedd wedi dianc.

Cafodd swyddogion yr heddlu eu hanfon i'r ardal i chwilio am yr unigolyn oedd wedi rhedeg i ffwrdd.

Yn ôl y llu doedd y person ddim i fod yn rhydd yn dilyn digwyddiad blaenorol.

Fe olygodd gwybodaeth gan y cyhoedd bod y person wedi cael ei ddarganfod a'i arestio.

Mae'r unigolyn yn y ddalfa yng Nghaernarfon ac mae'r heddlu yn dweud bod ymholiadau yn parhau.

Mae'r heddlu wedi diolch i'r cyhoedd am eu help ac wedi dweud nad oes yna unrhyw bryderon am ddiogelwch yn y gymuned.

"Efallai eich bod wedi sylwi ar bresenoldeb sylweddol yr heddlu ym Mlaenau Ffestiniog y prynhawn yma," meddai Heddlu Gogledd Cymru.

"Cafodd swyddogion ychwanegol eu hanfon i’r ardal i chwilio am berson a gafodd ei weld yn yr ardal a oedd wedi rhedeg I ffwrdd. Roedd y person yma’n rhydd yn anghyfreithlon yn Dilyn digwyddiad blaenorol.

"Diolch i wybodaeth a ddarparwyd gan aelodau o’r cyhoedd, cafodd yr unigolyn ei leoli a’i arestio. Maent ar hyn o bryd yn y ddalfa yng Ngharnarfon, tra bod ymholiadau’n parhau ac yn aros i gael eu cyfweld."

 

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.