Arestio bachgen 14 oed ar amheuaeth o greu dyfais ffrwydrol
Mae bachgen 14 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o geisio creu dyfais ffrwydrol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Snowdrop Lane yn Hwlffordd am tua 10.40 fore Sul 6 Medi yn dilyn adroddiadau o wrthrych amheus.
Cafodd tîm Gwaredu Ordnans Ffrwydrol eu galw i'r lleoliad er mwyn archwilio'r eitem.
Cafodd y ffordd ei chau er mwyn sicrhau diogelwch trigolion. Mae'r heddlu wedi diolch iddyn nhw am eu hamynedd.
Mae ymchwiliadau'r llu yn parhau.
