Ann Crimmings wedi ei hethol yn Arweinydd newydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf

Ann Crimmings

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi bod y Cynghorydd Ann Crimmings wedi cael ei hethol yn Arweinydd newydd y Cyngor yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher.

Cafodd y Cynghorydd Crimmings ei hethol yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Andrew Morgan OBE i roi’r gorau i'r rôl yn gynharach eleni.

Y Cynghorydd Ann Crimmings, sydd wedi cynrychioli ward Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed ers 2004, yw’r ail fenyw i fod yn Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Yn ogystal â bod yn Gynghorydd, mae hi hefyd yn wirfoddolwr brwd mewn nifer o grwpiau a phwyllgorau yn y gymuned, gan gynnwys Cwmdare For Cwmdare, Cyfeillion Parc Aberdâr a ParkRun Parc Aberdâr. 

Mae hi'n Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Parc Aberdâr, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.