Amddiffynnwr Caerdydd wedi ei wahardd am ddwy gêm a'i ddirwyo £10,000
Mae amddiffynnwr Caerdydd, Krystian Bielik, wedi cael ei wahardd am ddwy gêm a'i ddirwyo £10,000 yn dilyn ffrae gyda chefnogwr Portsmouth.
Digwyddodd y ffrae yn ystod colled yr Adar Gleision o 2-0 yn erbyn Portsmouth yn Fratton Park fis diwethaf.
Honnwyd bod Bielik wedi gafael mewn bachgen yn ei arddegau wrth iddo fynd i gasglu'r bêl o'r dorf yn ystod ail hanner y gêm.
Fe agorodd Heddlu Hampshire ymchwiliad yn dilyn y gêm, ond ni chafodd unrhyw gamau pellach eu cymryd ar ôl i'w hymholiadau ddod i ben.
Bellach mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cadarnhau bod y chwaraewr wedi cyfaddef i'r cyhuddiad o gamymddwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Lloegr: "Mae Krystian Bielik wedi cael ei wahardd am ddwy gêm a'i ddirwyo £10,000 am gamymddwyn yn ystod gêm Caerdydd yn erbyn Portsmouth ym Mhencampwriaeth yr EFL ddydd Sadwrn 5 Medi.
"Honnwyd bod y chwaraewr wedi ymddwyn mewn modd amhriodol tua 71 munud i mewn i'r gêm.
"Fe wnaeth Krystian Bielik gyfaddef y cyhuddiad wedi hynny."
Ychwanegodd y llefarydd fod comisiwn rheoleiddio annibynnol wedi gosod y gosb yn dilyn gwrandawiad, ac y bydd rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad yn cael eu cyhoeddi maes o law.
