Achos trywanu athrawes: Disgybl yn ddi-euog o geisio llofruddio
Mae disgybl wedi ei gael yn ddi-euog o geisio llofruddio ei athrawes mewn ysgol yn Sir Benfro ym mis Chwefror eleni.
Dyfarnodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun fod y bachgen, oedd yn 15 oed adeg yr ymosodiad, yn ddi-euog o'r honiad mwyaf difrifol yn ei erbyn, ond yn euog o anafu'n fwriadol, ac anafu anghyfreithlon.
Roedd y bachgen, sydd bellach yn 16 oed, wedi pledio'n ddieuog i geisio llofruddio Vicki Williams yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau.
Nid oes modd cyhoeddi ei enw o achos ei oedran.
Plediodd yn euog i fod â chyllell cegin yn ei feddiant ar dir yr ysgol. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 3 Medi yn Llys y Goron Abertawe.
Yn gynharach yn yr achos, dywedodd y bachgen wrth y llys fod Mrs Williams wedi ei weld gyda'r gyllell ac wedi "ceisio ei chymryd" oddi arno.
Dywedodd ei fod wedi "ymosod arni ar ddamwain" wrth i'r ddau ymrafael.
Clywodd y llys fod y bachgen wedi mynd at ei desg ar brynhawn y 5ed o Chwefror i ofyn iddi wirio ei waith.
'Clychau larwm'
Pan gaeodd ddrws yr ystafell ddosbarth, gan ddweud ei bod hi'n oer, dechreuodd "glychau larwm" ganu ym mhen yr athrawes, meddai hi.
Clywodd y rheithgor fod y myfyriwr wedi tynnu cyllell gegin fawr o'i fag, gan ei tharo yn y pen.
Clywodd y llys hefyd fod "ymrafael treisgar" wedi dilyn lle ceisiodd Mrs Williams gymryd y gyllell oddi wrtho cyn iddo redeg o'r ysgol.
Cafodd lluniau teledu cylch cyfyng eu dangos i'r rheithgor o'r bachgen yn gadael yr adeilad, cyn mynd i gartref ei nain, gan ddweud wrthi: "Aeth rhywbeth i mewn i fy mhen, nain."
'Brolio'
Awgrymodd Matthew Roberts KC ar ran yr amddiffyniad fod y myfyriwr wedi dod â'r gyllell gegin i'r ysgol er mwyn "brolio" i fechgyn eraill.
Dywedodd wrth y llys: “Nid oedd hanes ar gofnod o unrhyw wrthdaro rhwng (y myfyriwr) a Vicki Williams.
“Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw elyniaeth nac unrhyw ddrwgdeimlad rhyngddynt o gwbl.
“Nid (oedd ganddo)... unrhyw reswm o gwbl i fod eisiau brifo Vicki Williams.”
Clywodd y llys yn flaenorol fod Mrs Williams wedi mynd i'r ysbyty yn Hwlffordd wedi'r ymosodiad honedig.
Roedd ganddi anaf i groen ei phen, crafiadau ar ei chefn a thoriadau bach i’w dwylo.