Abertawe'n trechu Caerdydd yn y gêm ddarbi
Fe gurodd Abertawe eu gelynion pennaf, Caerdydd, yn gyfforddus o 3-0 yn y gêm ddarbi brynhawn Sul.
Doedd dim rhaid i'r cefnogwyr cartref yn Stadiwm Swansea.com ddisgwyl yn hir am y gôl gyntaf, gyda'r asgellwr Joseph Opoku yn rhwydo wedi 15 munud.
Aeth yr Elyrch, oedd heb ennill yr o'u saith gêm gynghrair ddiwethaf cyn y darbi, ymlaen i reoli'r gêm.
Sgoriodd y capten Ben Cabango eu hail wedi 57 munud, gan fanteisio ar gic gornel effeithiol, cyn i'r ymosodwr Žan Vipotnik selio'r tri phwynt gydag ergyd isel 12 munud yn ddiweddarach.