Cwynion am wasanaethau cyhoeddus yn taro'r ‘lefel uchaf erioed’

Ward ysbyty

Yn 2025-26, derbyniodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros 4,000 o gwynion am wasanaethau cyhoeddus am y tro cyntaf erioed.

Roedd hyn yn golygu bod cyfanswm o 4,507 o gwynion priodol wedi’u cofnodi ar draws pob maes.

Mae’r cyfanswm 27% yn uwch nag yn 2024-25 a 47% yn uwch na thair blynedd yn ôl, meddai swyddfa’r Ombwdsmon.

Daw’r ffigurau o adroddiad blynyddol yr Ombwdsmon, sydd hefyd yn nodi 20 mlynedd ers sefydlu’r corff.

Roedd cynnydd sylweddol, yn benodol, yn nifer y cwynion am fyrddau iechyd, gydag 1,351 o achosion wedi’u cofnodi yn 2025-26, sydd 42% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.

Roedd 1,704 o gwynion am awdurdodau lleol – cynnydd o 27% – a 513 am gymdeithasau tai, sy’n gynnydd o 25%.

“Dyma’r arwydd cliriaf eto bod pobl ledled Cymru yn parhau i deimlo’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus,” meddai’r Ombwdsmon, Michelle Morris.

“Rydym bellach yn derbyn tair gwaith cymaint o gwynion ag a dderbyniodd y swyddfa 20 mlynedd yn ôl, a’r cynnydd eleni yw’r un mwyaf sydyn yr ydym wedi’i weld.

“Y tu ôl i bob rhif mae rhywun sydd wedi teimlo ei fod wedi’i siomi ac sy’n chwilio am atebion, tegwch a gwelliant.”

Nododd yr adroddiad fod yr Ombwdsmon a’i thîm hefyd wedi cau’r nifer fwyaf erioed o achosion yn 2025-26, gyda’r nifer yn cynyddu ar raddfa debyg i’r twf yn nifer yr achosion a dderbyniwyd.

Cyhoeddodd y corff 20 o adroddiadau a gomisiynwyd heb gŵyn benodol, a naw adroddiad arall i dynnu sylw at “fethiannau difrifol mewn gwasanaethau gofal iechyd a thai cymdeithasol”.

 
Llun: Jeff Moore/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.