Cwsmeriaid yn y gorllewin yn cwyno ar ôl i archebion olew gael eu canslo yn sgil rhyfel Iran

Newyddion S4C

Cwsmeriaid yn y gorllewin yn cwyno ar ôl i archebion olew gael eu canslo yn sgil rhyfel Iran

Mae Prif Weithredwr cwmni sy'n darparu gwasanaeth masnachu olew ar gyfer systemau gwresogi domestig, wedi dweud wrth Newyddion S4C bod y diwydiant yn wynebu "heriau digynsail" yn sgil yr argyfwng yn y Dwyrain Canol.

Roedd Tim Buckman, sy'n brif weithredwr ar gwmni Boilerjuice, yn ymateb i bryderon a godwyd gan gwsmeriaid yng ngorllewin Cymru ar ôl i archebion olew gael eu canslo yn ddisymwth gan y cwmni.

Mae pris olew gwresogi wedi cynyddu o 60 ceiniog y litr i dros £1.30 y litr ers dechrau'r rhyfel gan America ac Israel yn erbyn Iran.

Clywodd Newyddion S4C gan Barrie Smith o Langwm yn Sir Benfro, oedd wedi gwneud archeb am olew

"Ar y dydd Gwener, cyn y rhyfel, fe wnes i archeb drwy wefan Boilerjuice am 500 litr o olew," meddai.

"Fe ges i gadarnhad ac fe wnes i daliad am yr olew. Fe ges i e-bost o gadarnhad ar y dydd Llun, oedd yn dweud y byddai'r olew yn dod ddydd Iau diwethaf. Ar y dydd Iau, fe dderbyniais i e-bost yn dweud bod yr archeb wedi ei chanslo."

Mae Newyddion S4C wedi derbyn nifer o negeseuon gan gwsmeriaid yng ngorllewin Cymru sydd wedi cael yr un profiad â Mr Smith.

Cwmni DJ Davies o Rydaman oedd fod i ddosbarthu'r olew ar ran Boilerjuice, ond dywedodd DJ Davies eu bod nhw yn "gweld problemau gyda chyflenwadau o'r burfa olew."

"Ni'n cael casglu llai a llai olew o'r burfa, ac mae hyn yn effeithio ar ein gallu i weithredu â chwmnïau eraill. Mae hyn wedi golygu ein bod ni wedi gorfod canslo archebion a wnaed drwy wefan Boilerjuice, am ein bod ni yn cael cosb ariannol os nad yw archebion yn cael eu cwblhau o fewn terfyn amser penodol.

"Rydym yn annog cwsmeriaid i beidio â phrynu mewn panig."

Image
Boilerjuice
Mae gwefan Boilerjuice yn "cysylltu cwmnïau lleol gyda chwsmeriaid" yn ôl Tim Buckman.

Mae Mr Smith yn dweud ei fod e'n flin gyda chwmni Boilerjuice am beidio â rhoi gwybod iddo yn gynt am y problemau gyda dosbarthwyr lleol, ac mae wedi gwneud cwyn swyddogol am yr oedi cyn rhoi gwybod iddo nad oedd modd cwblhau’r archeb.

Mae’n dweud ei fod e wedi clywed gan nifer fawr o gwsmeriaid sydd wedi cael eu siomi.

"Mae angen mwy o reolaeth yn y diwydiant. Mae pobl yn ddibynnol ar olew gwresogi.

"Diolch byth bod y gwanwyn a'r haf ar ein gwarthau. Rwy'n arswydo wrth feddwl beth fyddai'r sefyllfa yn yr Hydref. Rwy'n meddwl taw'r cymorth mwyaf gall bobl roi nawr yw i beidio â phrynu mewn panig."

Dywedodd Tim Buckman, Prif Weithredwr Boilerjuice, bod y wefan yn gweithredu fel "marchnad" ar-lein sydd yn cysylltu cwmnïau lleol gyda chwsmeriaid. Doedd e ddim yn fodlon ymateb i gwynion unigol.

"Mae archebion yn cael eu gwneud drwy blatfform Boilerjuice, a'r dosbarthydd lleol sydd yn gyfrifol am osod y pris a chadarnhau amseroedd dosbarthu," meddai.

"Mae'r mwyafrif o archebion yn cael eu cwblhau yn ôl yr arfer, ond mae yna beth oedi a phroblemau yn sgil yr amodau presennol ar y farchnad ryngwladol, ac rydym yn gwneud ein gorau i geisio cefnogi cwsmeriaid a chyflenwyr ar yr adeg anodd yma.

"Mae'r rhain yn heriau digynsail ac yn amser heriol iawn i gwsmeriaid a chyflenwyr. Mae prisiau olew yn amrywio 20% bob dydd, ac mae'r galw hefyd yn uchel."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.