Cwpan y Byd 2026: Chwaraewr o Dde Affrica wedi marw
Mae chwaraewr pêl-droed o Dde Affrica wedi marw’n sydyn, ychydig wythnosau’n unig ar ôl iddo gynrychioli ei wlad yng Nghwpan y Byd 2026.
Roedd y chwaraewr canol cae, Jayden Adams, yn 25 mlwydd oed.
Fe gadarnhawyd y newyddion gan Weinidog Chwaraeon De Affrica, Gayton McKenzie, a ddisgrifiodd Adams fel un o dalentau disgleiriaf y wlad.
Nid yw achos y farwolaeth wedi ei roi ar hyn o bryd, ond mae'r heddlu yn Cape Town wedi dechrau ymchwiliad wedi i gorff y chwaraewr 25 oed gael ei ddarganfod mewn tŷ yn ardal Schotschekloof o’r ddinas.
Roedd Adams yn aelod pwysig o garfan ei wlad yng Nghwpan y Byd eleni.
Fe ddechreuodd yn y gemau yn erbyn Mecsico a’r Weriniaeth Tsiec, cyn dod oddi ar y fainc yn y fuddugoliaeth yn erbyn De Korea.
Ni chwaraeodd yn rownd yr 32 olaf yn ystod y golled yn erbyn Canada.
Ganwyd Adams yn Cape Town ac ymunodd ag academi Stellenbosch yn ifanc.
Fe aeth ymlaen i wneud 139 o ymddangosiadau iddynt, ac yn 2025, fe ymunodd â Mamelodi Sundowns, un o glybiau mwyaf llwyddiannus Affrica, lle parhaodd i ddatblygu fel un o ganolwyr mwyaf addawol y wlad.
Mewn datganiad, dywedodd Undeb Chwaraewyr Pêl-droed De Affrica eu bod wedi’u “difrodi” gan y newyddion, gan barhau drwy ddweud bod Adams wedi cynrychioli ei wlad gyda balchder, dewrder ac urddas yng Nghwpan y Byd.
Dywedon nhw y byddai ei golled yn cael ei theimlo gan ei deulu, ei gyd-chwaraewyr, ei glybiau a chefnogwyr ledled y wlad.