Ailagor A487 rhwng Llanrhystud a Blaenplwyf ar ôl gwrthdrawiad
Mae’r A487 i’r de o Aberystwyth wedi ailagor ar ôl bod ar gau am sawl awr yn dilyn gwrthdrawiad fore Sadwrn.
Cafodd y ffordd ei chau i’r ddau gyfeiriad rhwng Llanrhystud a Blaenplwyf am 07.38.
Cadarnhaodd Traffig Cymru am 16.41 fod y digwyddiad bellach wedi clirio, ac mae Heddlu Dyfed-Powys hefyd wedi dweud bod y ffordd wedi ailagor.