‘Cŵn arbennig’: Y tîm achub gwirfoddol sydd ar alw 24/7 i gefnogi cymunedau’r gogledd
‘Cŵn arbennig’: Y tîm achub gwirfoddol sydd ar alw 24/7 i gefnogi cymunedau’r gogledd
Mae gwirfoddolwyr mewn tîm achub yng ngogledd Cymru yn dweud mai’r berthynas unigryw gyda’u cŵn “arbennig” sydd yn eu hysgogi i roi eu hamser i helpu eraill.
Yn rhan o dîm Achub Mynydd Ogwen, fe welodd Dave Jones, o Gapel Curig, gŵn Gwasanaeth Cŵn Chwilio ac Achub Cymru (Sarda Cymru) ar waith mewn sawl ymgyrch i ddod o hyd i bobl ar goll.
“Gwelais be roedden nhw’n gallu dod i ymdrechion chwilio,” meddai.
“Ac wrth i fy nghi i adra fynd yn hŷn, ro’n i’n gwybod be oeddwn i eisiau gwneud gyda’r ci bach nesaf – i fynd mewn i gŵn chwilio ac achub mynydd.
“Roedd yr hen gi yn anifail anwes annwyl, ond meddyliais, mae’r un yma angen pwrpas.”
Bellach yn aelod o Sarda Cymru ers naw mlynedd a chadeirydd am dair, mae Dave a’i gi Chloe yn rhan o dîm sydd ar alw 24/7 i chwilio am bobl sydd yn mynd ar goll yng ngogledd Cymru a thu hwnt.
Mae Sarda yn derbyn tua 40 galwad y flwyddyn ac yn ymateb i thua 20 pan mae angen cefnogaeth ychwanegol ar y gwasanaethau brys.
Er bod gan yr elusen berthynas agos gyda thimau achub mynydd a’r gwasanaethau brys, mae mwyafrif galwadau Sarda wedi’u lleoli ar dir isel.
Yn aml, mae’r galwadau’n ymwneud â phobl sydd yn ystyried hunanladdiad, pobl â dementia, neu blant sydd ar goll.
Wrth wraidd popeth mae’r berthynas rhwng y ci a’i meistr.
“Rydym yn gofyn lot fawr o’n cŵn chwilio ac achub,” meddai Dave, sydd hefyd yn aelod o Dîm Achub Mynydd Ogwen ers 22 mlynedd.
“Mae’n rhaid iddyn nhw fod mor weithgar â chŵn defaid, maen nhw’n gorfod bod yn ufudd iawn, mynd allan ym mhob tywydd, dydd a nos, mae’n rhaid gwneud ymweliadau mewn ysgolion – ac mae angen bod yr anifail anwes perffaith.
“Erbyn iddyn nhw gael eu hyfforddi’n llawn, maen nhw wedi cyflawni gymaint ac mae’r berthynas rhwng y ci a’r meistr wedi datblygu. Maen nhw’n gŵn arbennig iawn.”
Mae dau fath o gi ynghlwm â’r tîm, sef cŵn sydd yn gallu chwilota am berson mewn ardal agored, a chŵn sydd wedi’u hyfforddi i ganfod un arogl penodol, boed yng nghanol cefn gwlad neu yng nghanol dinas.
Mae Ian Oliver, o Flaenau Ffestiniog, wedi bod yn hyfforddi ei gi, Summer, ers sawl blwyddyn er mwyn ei pharatoi ar gyfer ymgyrchoedd achub go iawn.
“Maen nhw’n gamechanger,” meddai.
“Unwaith mae’r ci allan, nhw ydi’r boss. Os ydych chi’n anfon 20 o bobl allan i chwilio, gallai’r ci fynd dros yr un ardal â nhw yn yr un cyfnod maen nhw allan.
“Mae eu trwynau 100,000 gwaith yn gryfach na rhai ni, a chyn belled eich bod chi’n rhoi nhw yn y lle cywir o’r rhan y gwynt, maen nhw’n mynd i ddod o hyd i’r person fwy neu lai bob tro.”
‘Niferoedd yn isel’
Nid yw gwaith gwirfoddolwyr Sarda Cymru yn dod i ben ar ddiwedd galwad. Mae’r elusen yn trefnu hyfforddiant misol i’w cŵn ac achubwyr, yn ogystal ag ymdrechion parhaus i ddenu gwirfoddolwyr a chŵn newydd a chodi arian er mwyn talu am gostau’r sefydliad.
Mae taro’r cydbwysedd rhwng yr holl ddyletswyddau gyda bywyd personol a bywyd gwaith yn her, yn ôl Dave, wrth i’r elusen barhau i geisio denu aelodau newydd.
“Mae’n rhaid bod yn barod 24/7”, meddai.
“Cefais fy ngalw allan ar Ddydd Nadolig ddwy flynedd yn ôl – nid pawb sydd yn gallu gadael y teulu i fynd i chwilio am rywun. Bob man dwi’n mynd dwi’n meddwl, ‘oes gen i fy nghit? Ydi’r ci hefo fi?’ Mi wyt ti wastad ar standby yn barod i fynd.
“Mae gan lot o bobl y gallu i fod yn aelod o Sarda ond mae’n rhaid i’w hamgylchiadau fod yn iawn – rhywun sydd yn gallu rhoi amser, sydd efo’r bywyd teuluol a'r amgylchedd gwaith addas.”
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n weddol isel o’r rhan niferoedd cŵn ar hyn o bryd. Yn y tîm cŵn awyr agored, mae tri chi sydd yn gymwys, pum ci dan hyfforddiant a dau gi bach sydd yn dechrau’r broses.”
Mae’n dweud bod y berthynas dda gyda’i gyflogwr yn ei alluogi iddo gymryd amser i fynd ar alw pan mae angen – ond nid pob gwirfoddolwr sydd yn yr un sefyllfa.
“Da ni’n llwyr ddibynnol ar wirfoddolwyr – mae gwaith pawb yn hanfodol – o’r achubwyr, i’r cyrff rydyn ni’n hyfforddi gyda, a’r cŵn eu hunain.
“Yn bersonol, dwi’n meddwl y gallai cyflogwyr fod yn fwy cefnogol i wirfoddolwyr, ond dwi hefyd yn deall y pwysau sydd arnyn nhw'r dyddiau yma.
"Ond os ydyn nhw’n fodlon i adael eu gweithwyr i fod ar alw gyda thîm achub, byddwn i’n dadlau bod nhw’n cael unigolyn mwy effeithlon a chydwybodol sydd â sgiliau personol wedi datblygu.”
‘Eisiau rhoi rhywbeth yn ôl’
Yn ogystal â’r aelodau sy’n ymateb i alwadau, mae’r elusen yn dibynnu ar bobl i wirfoddoli i fod yn ‘gyrff’ yn ystod eu hyfforddiant.
Un sydd wedi cuddio mewn amryw leoliad am oriau ar y tro, ac ym mhob tywydd, yw Gwyn Williams, o Fethel.
“Y rheswm neshi wirfoddoli ydi oherwydd dwi’n licio cerddad mynydd a weithiau dwi’n mynd ar ben fy hun.
“Ag o’n i’n meddwl, pwy a ŵyr, falle ryw ddiwrnod os dwi di brifo neu di disgyn neu rwbath, fyswn i’n falch o wybod bod 'na gi a hyfforddwr ac achubwyr yn dod i ffindio fi.”
Ychwanegodd Mary Gillie, o Fethesda, sydd hefyd yn gwirfoddoli fel corff: “Dwi’n caru’r mynyddoedd ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, ond i fod yn onest, dwi just yn mwynhau bod hefo’r cŵn.”
Y berthynas arbennig rhwng y ci a’r meistr yw’r hyn sy’n cadw llawer o’r gwirfoddolwyr i fynd, meddai Dave.
"Mae'n braf gwybod ar ddiwedd y dydd dy fod yn gallu gwneud gwahaniaeth," meddai.
"Os yw'r tywydd yn wael, ac mae'n rhy niwlog i hofrennydd a dydi'r tîm ddim mor effeithiol yn yr amodau, bydd cŵn wastad yn mynd yn yr amodau yna.
"Ac mae bod yna yn gweithio gyda'r ci, ac mae'r bartneriaeth yn deimlad arbennig, a dyna beth rydan ni'n mwynhau fwyaf."
Prif lun: Cadeirydd Sarda Cymru, Dave Jones a'i gi, Chloe