Cwmni ynni aeth i’r wal ‘wedi taflu llwch i’n llygaid’, medd cyn-weithiwr

Y Byd ar Bedwar

Cwmni ynni aeth i’r wal ‘wedi taflu llwch i’n llygaid’, medd cyn-weithiwr

Mae cannoedd o gyn-weithwyr Consumer Energy Solutions (CES) yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni ynni yn Abertawe ar ôl i bron i 300 o weithwyr gael eu gwneud yn ddi-waith ym mis Ionawr. 

Ymunodd Jack Cromwell â CES ym mis Medi fel cydlynydd rheolwr safle, ond bum mis yn ddiweddarach cafodd ei wneud yn ddi-waith.

“Mae’n ofidus iawn, yn ddigalon iawn y ffordd mae pethau wedi datblygu,” meddai wrth raglen materion cyfoes S4C, Y Byd ar Bedwar.

“Pan ddechreuais i yn y cwmni, doedd dim arwydd fod unrhyw beth o’i le. Roedd cymaint o waith yn mynd drwy’r system. Roedd y targedau’n cynyddu o hyd. 

"Yna’n sydyn cawsom wybod fod dyfodol y cwmni’n ansicr.”

Roedd Consumer Energy Solutions yn gweithredu o dan gynllun ECO4 Llywodraeth y DU, sy’n ariannu systemau ynni am ddim i gartrefi. Ond cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’r cynllun yn dod i ben yn 2026. 

Ym mis Rhagfyr, lansiodd CES gyfnod ymgynghori o 45 diwrnod i drafod dyfodol y busnes. Ond 28 diwrnod yn ddiweddarach, ar 9 Ionawr, fe aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr. 

“Cafodd llawer o freuddwydion eu chwalu. Roedd ’na lawer o ddagrau’r diwrnod hwnnw,” meddai Mr Cromwell. 

“Mae hyn wedi bod yn dorcalonnus i bawb. Mae wedi cael effaith enfawr arna i. Mae gen i filiau i’w talu, rhent i’w dalu, treth cyngor. 

"Oni bai fy mod yn dod o hyd i waith arall yn fuan, dydw i ddim yn gwybod sut y bydda i’n gallu cynnal hynny yn y tymor hir.”

Her gyfreithiol

Mae Mr Cromwell bellach yn un o 220 o gyn-weithwyr sy’n herio’r ffordd y deliodd y cwmni â’r broses ddiswyddo. Mae’r grŵp yn credu na chynhaliwyd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r gyfraith.

“Prin iawn oedd y cyswllt â ni hefyd," meddai. "Rydyn ni’n teimlo bod gennym hawl i ryw fath o iawndal.

“Mae llawer ohonom yn flin oherwydd ein bod yn teimlo nad yw ein pryderon wedi cael eu hystyried gan y cyflogwyr. Yn bersonol, rwy’n teimlo bod y llwch wedi’i daflu i’n llygaid. Fe werthon nhw y freuddwyd i mi pan ddechreuais y swydd.”

Mae Mr Cromwell wedi ymgeisio am dros 40 o swyddi ond heb gael swydd newydd eto.

“Rydyn ni wedi cael ein gadael heb swydd, heb dâl, heb unrhyw syniad sut mae unrhyw un ohonom yn mynd i gynnal ein hunain yn y dyfodol. Dylai hyn ddim fod yn digwydd,” meddai.

Image
Jack Cromwell a gohebydd Y Byd ar Bedwar, Nest Jenkins
Jack Cromwell a gohebydd Y Byd ar Bedwar, Nest Jenkins

Mae Liz Saville-Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi galw am ymchwiliad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. 

“Mae gen i bob cydymdeimlad â’r bobl sydd wedi colli eu swyddi ar fyr rybudd. Mae hon yn sefyllfa warthus,” meddai. 

“Mae angen ymchwiliad cenedlaethol i’r ffordd y mae’r cwmnïau hyn yn ymddwyn, lefel yr elw maent yn gwneud, ac a oes gennym sgandal ar y defnydd o arian cyhoeddus yma.”

Dywed y gweinyddwyr a benodwyd i reoli CES, KR8 Advisory Limited, eu bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Taliadau Diswyddo ac eraill i gefnogi’r gweithwyr yr effeithiwyd arnynt.

“Mae arbenigwyr ERA y Cyd-weinyddwyr wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Taliadau Diswyddo (‘RPS’) i gefnogi gweithwyr a chynorthwyo gyda hawliadau am hawliau statudol eraill, gan gynnwys tâl rhybudd a thâl diswyddo," medden nhw.

"Cadarnhawyd bod mwyafrif y gweithwyr wedi cyflwyno eu hawliadau a bydd y rhain yn cael eu prosesu gan yr RPS.

“Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cymorth pellach ar gael drwy bartneriaeth rhwng Gyrfa Cymru, y rhaglen ReAct a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae manylion llawn y gwasanaethau hyn wedi’u rhannu gyda’r holl weithwyr ac maent ar gael yn rhad ac am ddim. 

"Mae adnoddau eraill hefyd, er enghraifft ACAS, sy’n darparu cyngor am ddim i gyn-weithwyr yr effeithiwyd arnynt gan ddiswyddo.”

Dywedodd Adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU ei bod wedi “etifeddu system oruchwylio a rheoleiddio ddiffygiol” ac yn gweithio ar frys gyda’r awdurdodau perthnasol i gefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, Cwmni Mewn Creisis, nos Lun ar S4C, S4C Clic a BBC iplayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.