Cwestiynau am gyflawni'r nod o weld hanner plant Cymru'n dechrau eu haddysg drwy'r Gymraeg

Newyddion S4C

Cwestiynau am gyflawni'r nod o weld hanner plant Cymru'n dechrau eu haddysg drwy'r Gymraeg

Mae Gweinidog y Gymraeg yn methu dweud faint o weithwyr ychwanegol fydd eu hangen i wireddu nod o weld hanner plant Cymru yn dechrau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.
 
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, fe amlinellodd Anna Brychan flaenoriaethau'r llywodraeth newydd o ran y Gymraeg, oedd yn cynnwys gweld 50% o blant Blwyddyn Un yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.
 
Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Newyddion S4C yn ddiweddarach, holwyd y Gweinidog bedair gwaith faint o staff ychwanegol oedd eu hangen i wireddu'r nod?
 
Methodd ag ymateb gyda ffigwr, ond fe ddywedodd bod y llywodraeth "yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd".
 
"Mae'r gwaith manwl yn digwydd nawr, byddwn yn rhannu rhagor ar hyn wrth i amser fynd ymlaen."
 
"Y neges bwysig i bobl glywed yw dyna ein targed a byddwn ni'n sicrhau bod ni'n gweithio ar gynlluniau parthed y gweithlu i'w cyrraedd nhw."
 
Dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad y byddai'r Gymraeg yn greiddiol hefyd i gynnig gofal plant arfaethedig y llywodraeth, lle maen nhw'n addo darparu 20 awr o ofal yr wythnos i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.
 
Ond wrth siarad â Newyddion S4C nododd mai'r un oedd y sefyllfa gyda'r cynllun hwnnw ar ran y gweithlu, gan ddweud eu bod nhw'n "gwneud y gwaith hwnnw ar hyn o bryd" gan weithio ar gyrff arbenigol fel y Mudiad Meithrin "sydd â'r arbenigedd a'r staff yn eu lle...i sicrhau ein bod ni'n diwallu'r anghenion sydd yn y system i ddiwallu'r targedau rheiny."
 
Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd y byddai'r Gymraeg yn gyfrifoldeb i bob aelod cabinet, bod y llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol i drafod sut mae pennu gwahanol ardaloedd o ran dwyster siaradwyr Cymraeg, a'u bod nhw'n gobeithio ymestyn safonau'r Gymraeg i sectorau newydd, gan gynnwys cyrff Llywodraeth y DU.  
 
Roedd croeso cyffredinol i flaenoriaethau'r Gymraeg a gafodd eu cyhoeddi yn y Senedd gan y gwrthbleidiau, er bod galw am ragor o fanylion gan rai.
 
Dywedodd cyn brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones: "Efallai mai rhyw fath o damaid i aros pryd yw hwn. Ond efallai y byddwn hefyd wedi disgwyl rhywbeth yn galetach...rhywbeth [ar y trywydd] mae'n rhaid i rywbeth newid."
 
Bydd y llywodraeth yn cyhoeddi strategaeth o ran y Gymraeg yn yr hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.