Cwest marwolaeth Llanelwedd: Dyn 'wedi marw o orddos cyffuriau'
Mae cwest wedi clywed fod dyn 25 oed wedi marw o ganlyniad i orddos cyffuriau mewn maes carafanau ar y penwythnos cyn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn gynharach yn y mis.
Wrth agor y cwest i farwolaeth Dewi Aeron Evans o Lanfihangel Glyn Myfyr, Corwen, yn Llys Crwner Ardal Canol De Cymru ym Mhontypridd fore dydd Gwener, dywedodd y Crwner Patricia Morgan fod Mr Evans wedi cael ei adnabod yn ffurfiol gan ei dad ar 19 Gorffennaf.
Ychwanegodd bod archwiliad post mortem i'r farwolaeth wedi ei gynnal gan Dr. George Kondratowicz yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
Dywedodd y Crwner mai casgliad cychwynnol y post mortem oedd bod y farwolaeth yn cydfynd gyda gorddos cyffuriau.
Roedd yn aros am ganlyniadau profion tocsicoleg pellach.
Fe wnaeth y Crwner anfon ei chydymdeimlad i deulu a ffrindiau Mr Evans ar ddiwedd y gwrandawiad.
Cafodd tri dyn eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau yn dilyn marwolaeth Mr Evans ar 18 Gorffennaf, ond mae'r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol bellach.
Mewn teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd teulu Mr Evans: "Dewi Aeron Evans, mab, brawd ac ŵyr annwyl a hoffus; bydd yn golled enfawr i'r teulu a'r gymuned yn Uwchaled.
"Byddai'r teulu a'r gymuned yn gwerthfawrogi preifatrwydd ar yr amser anodd yma."
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliad i'r farwolaeth.