Crwban môr prin i deithio 5,000 o filltiroedd adref o Ynys Môn

Crwban

Mae crwban môr prin a gafodd ei ddarganfod bron â marw ar draeth ar Ynys Môn yn paratoi i deithio tua 5,000 o filltiroedd yn ôl i’w gynefin naturiol yng Ngwlff Mecsico.

Cafodd Rhossi, crwban môr math Kemp’s Ridley, ei ddarganfod ger traeth Rhosneigr ar yr ynys ym mis Rhagfyr 2023, ar ôl crwydro miloedd o filltiroedd o ddyfroedd cynhesach dros yr Iwerydd.

Roedd yn llai na dwy oed ar y pryd ac mewn cyflwr difrifol wedi iddo ddioddef yr hyn sy’n cael ei alw’n “cold-stunning”, sef pan mae crwban yn cael ei lethu gan dymheredd y dŵr sy’n llawer oerach na’i gynefin arferol.

Ers hynny, mae staff Sŵ Môr Môn wedi bod yn gofalu amdano ac mae ei bwysau wedi cynyddu o lai nag un un i 21kg.

Mae’r gwaith o baratoi i’w ddychwelyd i’r gwyllt wedi cymryd bron i ddwy flynedd.

Bydd Rhossi yn cael ei gludo mewn cawell arbennig sy’n rheoli’r tymheredd, gan deithio mewn hofrennydd o Ynys Môn i Lundain cyn cael ei hedfan ar awyren cargo i Houston, Texas.

Bydd angen i staff sicrhau nad yw’r crwban yn dioddef effeithiau diffyg dŵr yn ystod y daith. 

Dywedodd Matt Davison o Sŵ Môr Môn, eu bod yn defnyddio Vaseline ar ei gragen a chynnyrch KY Jelly ar ei groen a’i lygaid i’w hatal rhag sychu.

Dywedodd perchennog Sw Môr Môn, Frankie Hobro, nad oedden nhw’n gwybod ar y dechrau a fyddai Rhossi’n goroesi.

“Mae crwbanod yn perthyn yn y gwyllt, nid mewn caethiwed, felly mae’n hynod emosiynol gan mai dyma beth rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag ato ers dros ddwy flynedd,” meddai.

Ychwanegodd y bydd ffarwelio â Rhossi yn anodd wedi i’r staff ddod i’w adnabod mor dda, ond y bydd ei weld yn nofio’n rhydd yn y Caribî yn benllanw’r gwaith o’i achub a’i adfer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.